Skip to main content

New Men’s Shed for Milford Haven Station

29 Ion 2025

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn falch iawn i gyhoeddi bod ‘Men’s Shed’ newydd wedi agor yng ngorsaf Aberdaugleddau. Ffordd wych o ddefnyddio orsaf TrC a chreu lle sy’n darparu cefnogaeth gymunedol.

Mae ‘Men’s Sheds’ yn annog pobl i ddod ynghyd er mwyn creu, atgyweirio ac addasu gan gefnogi prosiectau yn eu cymunedau lleol. Yn bennaf oll, maent yn cynnal gweithgareddau llawr gwlad sy’n ymateb i anghenion a rennir o fewn yr ardal leol.

Mae ‘Sheds’ yn dod â llawer o fuddion iechyd gan gynnwys gwell lesiant diolch i’r cyfleoedd cymdeithasu mae’n eu rhoi. Gwnaeth aelodau (neu ‘Shedders’ fel y’u hadnabyddir) nodi bod gostyngiad o 96% mewn unigrwydd ers ymuno â ‘Shed’, sy’n dangos pa mor fuddiol gall y mannau hyn fod a’r gwahaniaeth maent yn eu gwneud i gymunedau ar draws y wlad.

Er eu bod yn cael eu cysylltu’n draddodiadol â dynion hŷn, mae Men’s Sheds yn amgylchedd cynhwysol sy’n croesawu pobl o bob rhyw a chefndir.

Bydd y ‘Men’s Shed’ newydd yng ngorsaf Aberdaugleddau yn rhoi lle i’r gymuned leol gysylltu â’i gilydd a meithrin perthnasau, rhannu sgiliau a gwybodaeth, a lleihau unigrwydd. Mae’r ‘Shed’ yno i’r gymuned a gall ‘Shedders’ benderfynu ar sut i ddefnyddio’r man.

Ychwanegodd Emma Collins, Rheolwr Gorsaf Aberdaugleddau:

“Rwy’n falch ein bod yn gallu rhoi lle i sied y Dynion yn yr orsaf yn Aberdaugleddau a chefnogi’r grŵp cymunedol amhrisiadwy hwn a’r gwaith y maent yn ei wneud.”

Gwnaeth pwyllgor ‘Men’s Shed’ yn Aberdaugleddau ddiolch i TrC am y cyfle i’r gymuned hŷn gael ‘hafan’ eu hunain i wneud cyfeillion a chefnogi llesiant mewn amgylchedd diogel.

Dywedodd ‘Men’s Shed’ Aberdaugleddau:

“Mae aelodau’r ‘Shed’ yn gobeithio gallu rhoi nôl i’r gymuned ychydig o’r hyn maent wedi derbyn wrth TrC. Hoffem ddiolch hefyd i’r Loteri Genedlaethol am y cyllid sydd wedi gwneud y prosiect hwn yn bosib.

P’un a ydynt yn dymuno gwneud crefftau neu brosiectau, neu hyd yn oed am alw heibio am baned a sgwrs, mae’r ‘Men’s Shed’ yma ar gyfer pobl y dref, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb.”

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â ‘Men’s Sheds’, gan gynnwys dod o hyd i’ch ‘Shed’ agosaf, ewch i’r wefan