Skip to main content

New map to boost disabled passengers’ confidence to take the train

17 Ebr 2019

Mae’r diwydiant rheilffyrdd yn lansio map rhyngweithiol newydd er mwyn ei gwneud hi’n hawdd i deithwyr anabl gael gwybodaeth am hygyrchedd mewn gorsafoedd, a fydd yn gwella eu hyder i deithio ar drenau.

Mae hyn yn rhan o raglen ehangach y diwydiant i wella hygyrchedd y rheilffyrdd, ac i gyflawni newid hirdymor.

Mae’r ‘Map Hygyrchedd’ newydd yn rhoi gwybodaeth am bob gorsaf ledled Prydain, ac mae’n galluogi pobl i weld a yw gorsaf benodol yn hygyrch, fel y gallant gynllunio yn ôl eu gofynion personol, a theithio mewn ffordd rwydd a dibynadwy.  Gall teithwyr chwilio am orsafoedd penodol, neu gallant weld Prydain gyfan drwy ddefnyddio’r Map Hygyrchedd, sy’n dangos:

  • a oes gan orsaf fynediad heb risiau, neu fynediad sy’n rhannol heb risiau
  • pa gyfleusterau sydd ar gael mewn gorsaf, gan gynnwys toiledau hygyrch a chyfleuster Changing Places
  • ble mae yna orsafoedd hygyrch eraill, er mwyn gallu cynllunio eich taith wrth i chi deithio.

 

Mae sicrhau bod cwsmeriaid yn gwybod beth i'w ddisgwyl ym mhob gorsaf yn rhoi mwy o hyder iddynt deithio ar drenau. Mae’n bosib defnyddio'r Map Hygyrchedd gyda nodweddion hygyrchedd ar iPhone, Android a chyfrifiaduron bwrdd gwaith, a hynny’n cynnwys pobl â nam ar y golwg. Mae hefyd yn cael ei ddatblygu fel ap, a fydd yn cael ei ryddhau yn ystod y misoedd nesaf, er mwyn ei gwneud hi’n rhwyddach ei ddefnyddio wrth i chi deithio.

Mae’r map hwn yn un rhan o gynllun hirdymor y diwydiant rheilffyrdd i wella hygyrchedd y rheilffyrdd, gan gefnogi mwy o bobl i deithio ar drenau. Mae’r diwydiant rheilffyrdd hefyd yn treialu ap chwyldroadol, ac yn diweddaru systemau cyfrifiaduron swyddfa gefn sy’n cael eu defnyddio gan ganolfannau archebu a staff mewn gorsafoedd i gyflymu archebu cymorth. O fis Tachwedd ymlaen, bydd pobl yn gallu creu proffiliau defnyddwyr, a threulio llawer iawn llai o amser ar y ffôn yn archebu cymorth. Y flwyddyn nesaf, bydd staff y rheilffyrdd yn dechrau defnyddio’r systemau hyn sydd wedi eu diweddaru, ac erbyn haf 2020, bydd yr ap i gwsmeriaid yn cael ei lansio, gan helpu teithwyr i gael rhagor o reolaeth dros eu taith.

Dros y flwyddyn nesaf, bydd cwmnïau trenau hefyd yn cyflwyno trenau newydd sy’n fwy hygyrch, a rheini’n cynnwys systemau gwybodaeth i deithwyr sy'n darparu gwell gwybodaeth weledol am deithiau. Er enghraifft trenau newydd Stadler ar gyfer MerseyRail a Greater Anglia, y Class 800 ‘Azuma’ gan LNER, a'r trenau dosbarth 717 newydd sy'n cael eu cyflwyno gan GTR.  Mae’r diwydiant rheilffyrdd wedi cwblhau gwerth £500 miliwn+ o welliannau ers 2006, ac yn dilyn cyhoeddiad y llywodraeth bod yna £300 miliwn o gyllid ychwanegol, bydd yn gwneud 73 gorsaf arall yn fwy hygyrch erbyn 2024.

 Dywedodd Robert Nisbet, Cyfarwyddwr Rhanbarthol y Grŵp Cyflawni – Rheilffyrdd:

“Bydd ein map newydd yn helpu i wella hyder teithwyr wrth iddynt deithio ar drenau, gan gael gwared ar unrhyw elfen annisgwyl a rhoi sicrwydd iddynt drwy eu galluogi i gynllunio eu taith, a sicrhau eu bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl.

“Rydyn ni’n gwybod bod angen i ni fynd ymhellach, ac mae’r diwydiant rheilffyrdd yn gwneud newidiadau mawr er mwyn gwneud y rheilffyrdd yn hygyrch i bawb. Rydyn ni’n buddsoddi biliynau o bunnoedd er mwyn gwneud miloedd o gerbydau yn fwy hygyrch, i ddatblygu ap i gyflymu archebu cymorth, ac i ddiweddaru seilwaith i wneud gorsafoedd ledled y wlad yn fwy hygyrch.”

Bu'r Grŵp Cyflawni – Rheilffyrdd yn gweithio ar y cyd â chwmnïau trenau a’r Adran Drafnidiaeth i greu Map Hygyrchedd.

Dywedodd Barry Lloyd, Pennaeth Profiad Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru: “Mae gwneud teithio ar y rheilffyrdd mor hawdd â phosibl i bawb, gan gynnwys pobl ag anableddau a phobl ag unrhyw anawsterau symudedd, yn hynod o bwysig i ni yn Trafnidiaeth Cymru.

“Felly, rydyn ni’n hynod o falch o weld Map Hygyrchedd newydd y Grŵp Cyflenwi – Rheilffyrdd, a fydd yn adnodd gwych er mwyn helpu pobl i weld pa gyfleusterau sydd ar gael iddynt.

“Mae hyn yn dilyn y newyddion y bydd 11 o'n gorsafoedd cyn bo hir yn cael buddsoddiad Mynediad i Bawb, i sicrhau bod mynediad heb risiau yno, ac i wireddu ein hymrwymiad ni bod mynediad heb risiau ar gael ar 99% o’r teithiau ar rwydwaith craidd y cymoedd.”

 

Mae’r diwydiant rheilffyrdd wedi cwblhau dros £500miliwn o welliannau hygyrchedd ers 2006, ac mae 75% o deithiau nawr yn cael eu gwneud drwy orsafoedd mynediad heb risiau.

 

Y gorsafoedd diweddaraf i dderbyn cyllid ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru yw:

 

Y Fenni

Y Barri

Caerffili

Cathays

Cwmbrân

Y Fflint

Llanelli

Llwydlo

Shotton

Dinbych-y-pysgod

Trefforest

 

Bydd y prosiectau hyn yn cael eu rhoi ar waith dros y pum mlynedd nesaf.

 

DIWEDD

 

 

Nodiadau i olygyddion


Nodiadau

  • Mae’r Map Hygyrchedd ar gael ar http://accessmap.nationalrail.co.uk/.     
  • Mae pob cwmni trenau a Network Rail yn darparu'r wybodaeth am orsafoedd – maent yn archwilio eu gorsafoedd yn gyson, a bydd unrhyw ddiweddariad yn cael ei adlewyrchu a’i ddiweddaru ar y map, ac ar ‘Stations Made Easy’ National Rail wrth iddynt wneud hyn. Bydd pob gorsaf ar y Map Hygyrchedd hefyd yn cysylltu i dudalen Stations Made Easy ar gyfer gweld diweddariadau/cyhoeddiadau.
  • Mae'r Map Hygyrchedd yn cynnig rhagor o wybodaeth am orsaf pan fyddwch yn clicio ar yr orsaf, gan gynnwys manylion am ba bryd mae staff ar gael i gynnig cymorth.
  • Ar hyn o bryd, mae yna 239,000 o gardiau rheilffyrdd i bobl anabl yn cael eu defnyddio, ac eleni, cafodd 7.5 miliwn o deithiau eu gwneud ar y cardiau hynny. 
  • Mae nifer yr adegau lle mae teithwyr wedi derbyn cymorth wedi codi traean dros y 5 mlynedd diwethaf. Cafwyd 1.3 miliwn o archebion am gymorth yn 2017-18.