Skip to main content

New details announced for multi-million-pound investment to boost reliability of North Wales Coast railway

29 Medi 2026

Bydd y rhaglen hon, sy’n gyfle euraid, yn cyflawni gwerth blynyddoedd o welliannau pan fydd y rheilffordd ar gau am bedair wythnos yn ystod mis Ionawr 2027.

Caiff mwy na £25 miliwn ei fuddsoddi yn rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru ym mis Ionawr 2027, wrth i Network Rail gyflawni rhaglen fawr o welliannau er mwyn hybu dibynadwyedd a chapasiti ar y llwybr hwn sy’n hanfodol i deithwyr a threnau nwyddau.

Fel rhan o’r rhaglen hon, sy’n gyfle euraid, bydd peirianwyr yn gweithio mewn lleoliadau ar draws y rheilffordd rhwng Caer a Chaergybi, yn adnewyddu’r trac a darnau eraill o seilwaith – y mae rhai ohonynt wedi bod yn weithredol ers mwy na hanner canrif.

Er mwyn caniatáu i’r pecyn mawr hwn o waith gael ei wneud yn ddiogel ac yn effeithlon, bydd llwybr Arfordir Gogledd Cymru ar gau am bedair wythnos o ddydd Sadwrn 9 Ionawr i ddydd Sadwrn 6 Chwefror 2027.

Yn ystod y tair wythnos gyntaf, bydd y rheilffordd ar gau rhwng Caer a Chaergybi, gan gynnwys llinell Dyffryn Conwy a Chyffordd Llandudno i Landudno. Yn ystod y bedwaredd wythnos, bydd llai o’r rheilffordd ar gau, sef y darn rhwng Cyffordd Llandudno a Chaergybi.

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau pan fydd y rheilffordd ar gau. Disgwylir cadarnhau’r trefniadau teithio manwl yn hydref 2026.

Mae’r buddsoddiad yn adeiladu ar y gwaith o gyflwyno amserlen newydd Gogledd Cymru ym mis Mai 2026, pan gynyddwyd nifer gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru 50% - y gwelliant mwyaf i amserlen Gogledd Cymru ers degawdau.

Gyda mwy o drenau’n defnyddio’r rheilffordd, bydd cau’r rheilffordd ym mis Ionawr hefyd yn caniatáu i dimau Network Rail wneud gwaith cynnal a chadw ychwanegol, yn ogystal â’r prif waith adnewyddu.

Trwy gwblhau’r holl waith cymhleth hwn yn ystod un rhaglen pedair wythnos, bydd llai o angen cau’r rheilffordd ar benwythnosau dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, gan leihau’r tarfu ar deithwyr, trigolion a busnesau lleol cymaint â phosibl.

Dywedodd Emma Osborn, Cyfarwyddwr Strategaeth i Deithwyr llwybr Cymru a’r Gororau Network Rail: “Mae’r buddsoddiad unigryw hwn yn rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn gyfle euraid i adnewyddu a gwella seilwaith ar draws y llwybr pwysig hwn.

“Mae’n anochel y bydd buddsoddiad ar raddfa mor fawr yn achosi rhywfaint o darfu dros dro wrth inni gwblhau’r gwaith, a gwyddom y bydd cau’r rheilffordd yn effeithio ar gwsmeriaid a chymunedau.

“Ond trwy ddod â gwerth blynyddoedd o waith cymhleth at ei gilydd mewn un rhaglen ddwys, gallwn ei gyflawni’n fwy diogel ac effeithlon, ac osgoi cyfres estynedig o benwythnosau pan fydd y rheilffordd ar gau, sy’n tarfu ar ein cwsmeriaid.

“Bydd y buddion hirdymor i deithwyr a threnau nwyddau yn drech na’r cyfnod o darfu dros dro, trwy gynnig rheilffordd fwy diogel a dibynadwy sydd â’r gallu i gefnogi’r nifer ychwanegol o wasanaethau sydd bellach yn rhedeg ar draws Gogledd Cymru.

“Rydym yn gweithio’n agos â Thrafnidiaeth Cymru ac Avanti West Coast i gadw’r teithwyr i symud. Diolch i bawb ymlaen llaw am eu hamynedd wrth inni gyflenwi’r buddsoddiad mawr hwn.”

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru: "Wrth i ni weld cynnydd yn nifer y teithwyr ac amlder y gwasanaethau ar draws gogledd Cymru, mae gweithio ochr yn ochr â'n partneriaid yn Network Rail yn hanfodol i sicrhau y gall ein seilwaith gefnogi'r galw hwnnw.

"Bydd gwaith cynnal a chadw traciau hanfodol, draenio twneli, a phontydd troed hygyrch newydd yn helpu i ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy a gorsafoedd gwell i'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu.

 “Rydyn ni'n gwybod bod cau rheilffyrdd yn amharu ar ein teithwyr, ac rydyn ni'n gwerthfawrogi eu hamynedd. Rydyn ni'n parhau i fod wedi ymrwymo i gadw gogledd Cymru i symud drwy gydol mis Ionawr, a bydd manylion llawn am drefniadau teithio yn cael eu rhannu'r Hydref hwn."

Dywedodd Chris Liptrot, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Avanti West Coast: “Bydd newidiadau i’n gwasanaethau ar lwybr Gogledd Cymru wrth i Network Rail gyflawni’r gwelliannau hyn.

“Rydym yn gweithio’n agos â Network Rail a’n partneriaid yn y diwydiant i sicrhau y caiff cwsmeriaid y wybodaeth ddiweddaraf am sut yr effeithir ar eu teithiau. Pan fydd yr amserlen wedi’i chadarnhau, argymhellwn i deithwyr sy’n bwriadu teithio yn ystod y cyfnod hwn i wirio gwefannau Avanti West Coast a’r Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio.”

Nodiadau i olygyddion


Mae Network Rail wedi gweithio gyda’i dimau peirianyddol i leihau’r cyfnod y bydd y rheilffordd ar gau rhwng Caer a Chyffordd Llandudno, i lawr o bedair wythnos i dair.

Mae’r buddsoddiad gwerth £25 miliwn yn cynnwys:

  • Adnewyddu’r trac ar Bont Reilffordd Diwbaidd Conwy, sy’n strwythur rhestredig Gradd I. Mae’r trac presennol yn dyddio’n ôl i 1978.
  • Gwelliannau mawr i’r trac a’r draeniau yn Nhwnnel Bodorgan, yn adnewyddu seilwaith sy’n dyddio’n ôl i 1972 ac yn helpu lleihau risg llifogydd.
  • Adnewyddu’r trac a gwelliannau i’r tir ym Mhenmaen-bach, lle na chafodd darnau o’r trac eu hadnewyddu ers 1986.
  • Gwelliannau i’r trac a’r pwyntiau yng Nghaergybi a Llandudno.
  • Gwelliannau i’r platfform yng Nghyffordd Llandudno.
  • Gwaith ar bedair croesfan wastad, i’r dwyrain o Fangor.
  • Gwaith rheoli llystyfiant gwerth oddeutu £1.4 miliwn mewn naw lleoliad, ynghyd â gwaith cynnal a chadw helaeth ar hyd y llwybr.
  • Dwy bont droed gwbl hygyrch newydd ym Mhrestatyn ac Abergele, yn caniatáu inni gau pedair croesfan wastad risg uchel.

Mae’r gwaith yn rhan o’r buddsoddiad ehangach mewn trafnidiaeth ar draws gogledd Cymru, ochr yn ochr â threnau a bysiau newydd, a gwelliannau i’r fflyd, a fydd yn helpu i greu rhwydwaith mwy cysylltiedig i gymunedau, busnesau ac ymwelwyr.

Dewiswyd mis Ionawr ar gyfer y gwaith gan ei fod yn gyfnod tawelach i dwristiaeth yng ngogledd Cymru’n draddodiadol, gyda llawer o barciau gwyliau ac atyniadau ar gau am y tymor, gan helpu i leihau’r effaith ar deithwyr a busnesau lleol.

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau pan fydd y rheilffordd ar gau, a bydd amserlenni manwl yn cynnwys dyddiadau teithio ar gyfer misoedd Ionawr a Chwefror ar gael yn y cynllunwyr teithio rhwng diwedd mis Hydref a dechrau mis Tachwedd. Argymhellir i deithwyr gwirio cyn teithio pan fydd yr amserlenni diwygiedig wedi’u cyhoeddi.