Skip to main content

New Passenger Assistance Meeting points making life even easier for Transport for Wales customers

20 Rhag 2019

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyflwyno mannau cyfarfod Cymorth i Deithwyr pwrpasol yng ngorsaf Caerdydd Canolog i wella’r profiad cwsmer ar gyfer unrhyw gwsmeriaid sydd angen cymorth ar eu taith.

Mae’r mannau cyfarfod amlwg wedi’u lleoli yng nghyntedd blaen Caerdydd Canolog ac yn y fynedfa gefn ar Heol Penarth ar ochr ddeheuol yr orsaf. Maent yn cynnwys seddi ac wedi’u cynllunio mewn lliw glas unigryw, sy’n cynnwys pum symbol i gynrychioli’r prif sectorau anabledd.

Bydd y mannau cyfarfod yn cael eu defnyddio fel lleoliad casglu a chymorth i bob cwsmer sydd wedi archebu cymorth a hefyd i unrhyw un sydd angen cymorth ychwanegol ar y diwrnod y maent yn teithio. Mae hyn yn dilyn cyflwyno pedwar Llysgennad Cwsmeriaid pwrpasol yng ngorsaf Caerdydd Canolog yn gynharach eleni.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhoi cwsmeriaid yn ganolog i benderfyniadau a disgwylir i’r mannau cyfarfod hyn ei gwneud yn haws i staff rheilffyrdd adnabod cwsmeriaid sydd angen cymorth gan ddarparu cysur i’r rhai a allai fod angen seddi a chadw’n gynnes wrth aros.

Fel gorsaf brysuraf Cymru, gyda mwy na 12 miliwn o deithiau teithwyr bob blwyddyn, Caerdydd Canolog yw’r gyntaf i elwa, ac yn ystod y tair blynedd nesaf bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno’n raddol ledled y rhwydwaith ym mhob gorsaf lle mae staff.

Meddai Dr Robert Gravelle, Rheolwr Hygyrchedd a Chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru:

“Rydym ni’n gwybod pa mor bwysig yw gallu teithio’n ddiogel ac yn hyderus gan wybod y byddwch chi’n cael y cymorth iawn ar hyd eich taith.

“Felly, rydym ni’n falch iawn o fod wedi cyflwyno’r mannau cyfarfod cymorth i deithwyr arbennig hyn yng ngorsaf Caerdydd Canolog.

“Maent yn cynnig lleoliad diogel ac amlwg lle gall ein staff eu cyfarfod a’u helpu i wneud eu teithiau mor rhwydd â phosibl.

“Nawr, byddwn yn cyflwyno’r rhaglen hon ledled ein rhwydwaith wrth i ni ddal ati i adeiladu rheilffordd gynhwysol ar gyfer Cymru a’r Gororau.”

Mae gan Trafnidiaeth Cymru wasanaeth cymorth teithwyr pwrpasol a bydd yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod teithio ar rwydwaith Cymru a’r Gororau yn brofiad mor ddidrafferth â phosibl.

Meddai Kirsty James, Swyddog Ymgyrchoedd RNIB a Defnyddiwr Ci Tywys:

“Mor falch gweld yr ardal cynorthwyo teithwyr yng nghefn yr orsaf. Wrth fy modd gyda’r arwyddion! Gwych gweld cynnydd yn cael ei wneud! Diolch TrC.”

I archebu’r gwasanaeth cymorth i deithwyr, ffoniwch 03330 050 501 (8am tan 8pm bob dydd, heblaw am ddiwrnod Nadolig). Am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi, ewch i: https://trc.cymru/gwybodaeth/teithwyr/teithio-hygyrch/cymorth-i-archebu