Skip to main content

New community space in the heart of the Valleys

25 Ion 2022

Mae trigolion sy’n byw yng Nghymoedd y Rhondda yn elwa o ofod cymunedol newydd, diolch i bartneriaeth newydd gyda Trafnidiaeth Cymru.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cydweithio ag Alun Griffiths Ltd a Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian yng nghanol y Cymoedd i drawsnewid ardal segur yn fan gwyrdd er mwyn tyfu cynnyrch a gwella bioamrywiaeth.

Mae wedi bod yn bosibl diolch i gyllid gan y cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.  Mae'n rhan o brosiect mwy cronfa Llwybrau Gwyrdd gwerth £100,000 i wella bioamrywiaeth mewn 22 o orsafoedd ac mewn 5 ardal gymunedol.

Dywedodd Alana Smith, Swyddog Datblygu Cynaliadwy yn Trafnidiaeth Cymru: “Rydyn ni’n defnyddio cyllid Llwybrau Gwyrdd i geisio cysylltu pobl â’r byd natur ar garreg eu drws, mewn cymunedau.

“Fe benderfynon ni ymgeisio am yr arian hwn er mwyn ceisio gwella natur a bioamrywiaeth mewn cymunedau ger ein gorsafoedd trenau.

“Rydym wrth ein bodd gyda llwyddiant y prosiect gydag Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian.”

Mae ymddiriedolaeth Pentref Cambrian eisoes yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau awyr agored, digwyddiadau lleol a gweithdai yn ei chanolfan drws nesaf i lyn yn Nhonypandy ac roedd yn bwriadu datblygu ei safle ymhellach er budd y gymuned.

Dywedodd Gavin Mcauley, Cydlynydd Datblygu Cymunedol yn Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian: “Yn ystod y cyfyngiadau symud, roedd y llecyn yn gynfas gwag, agored ac roeddem am ddatblygu’r cyfleuster i ganiatáu i’r gymuned gael lle i'w hunain.

“Fy syniad oedd y byddai pobl yn gallu tyfu a choginio eu cynnyrch eu hunain, ac yna, eistedd i lawr a bwyta gyda’i gilydd fel cymuned.

“Fe wnaethon ni drafod y prosiect gyda Trafnidiaeth Cymru a’n bwriad i ddatblygu’r syniad o blannu planhigion a chreu rhandiroedd.”

Ychwanegodd Jeannie Jones, gwirfoddolwr gydag Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian: “Mae’n gyffrous iawn ac rydym yn ffodus oherwydd mae glan y llyn yn ardal hynod o brydferth.

“Yna cawsom y cyfleuster hwn ar garreg ein drws i'w wella.  Gall y prosiectau hyn fod o fudd i gymaint o bobl.  Gallan nhw fynd a dod fel y mynnant; mae'r ysbryd cymunedol yn rhagorol.

“Mae'n deimlad braf dod ynghyd a helpu ein gilydd.  Rydyn ni'n ei fwynhau'n fawr ac yn teimlo'n ffodus ei fod ar gael i ni.”

I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud mewn cymunedau, ewch i https://trc.cymru/gwybodaeth/cymunedau