25 Gor 2025
Yn dilyn llwyddiant teithio cynaliadwy yn yr Eisteddfod y llynedd ym Mhontypridd, mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn falch iawn o gyhoeddi ei ymrwymiad parhaus i annog opsiynau teithio gwyrdd ar gyfer yr Eisteddfod yn Wrecsam eleni.
Cynhelir yr Eisteddfod, dathliad bywiog o'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru, yn Is-y-coed, ar gyrion y ddinas, o ddydd Sadwrn, 2 Awst i ddydd Sadwrn, 9 Awst 2025.
Mae teithio'n gynaliadwy i'r Maes yn flaenoriaeth allweddol ac mae TrC wedi bod yn gweithio'n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a threfnwyr yr Eisteddfod i gadarnhau trefniadau trafnidiaeth cynhwysfawr a gynlluniwyd i wneud opsiynau teithio gwyrdd y ffordd hawsaf a mwyaf cyfleus o deithio ar gyfer ymwelwyr.
Gorsaf Wrecsam Cyffredinol yw'r orsaf agosaf at y Maes. Er mwyn darparu ar gyfer y cynnydd yn nifer y teithwyr, bydd TrC ac Avanti West Coast yn rhedeg gwasanaethau ychwanegol drwy gydol yr wythnos.
Ar gyfer teithio ymlaen i'r Maes, bydd bysiau gwennol am ddim yn rhedeg yn aml rhwng gorsaf reilffordd Wrecsam Cyffredinol, gorsaf fysiau Wrecsam a'r Maes. Bydd y gwasanaethau hyn yn rhedeg bob dydd o 8am tan hanner nos.
Yn ogystal â hyn, bydd llwybr bws T3 TrawsCymru (Y Bermo i Wrecsam) hefyd yn galw ym Maes yr eisteddfod fel safle bws dynodedig ychwanegol.
Mae Trafnidiaeth Cymru wrthi’n ymgysylltu â Cycling UK a Chyngor Wrecsam i nodi llwybrau a dulliau diogel i ymwelwyr sy'n dewis cyrraedd ar feic/ar olwynion ac ar droed.
Dywedodd Gethin George, Rheolwr Rhaglen yn Trafnidiaeth Cymru: “Fel partner trafnidiaeth allweddol, rydym yn falch o barhau â'n hymrwymiad i ddarparu opsiynau teithio cynaliadwy ar gyfer yr eisteddfod.
“Gwelsom ymgysylltiad gwych y llynedd, ac rydym wedi adeiladu ar y llwyddiant hwnnw i'w gwneud hyd yn oed yn haws i ymwelwyr ddewis opsiynau teithio gwyrdd i gyrraedd y maes yn Wrecsam.
“Rydym wedi gweithio'n agos gyda'n partneriaid i sicrhau cysylltiadau di-dor ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb i'r eisteddfod ym mis Awst."
Anogir teithwyr i gynllunio ymlaen llaw a gwirio am y wybodaeth deithio ddiweddaraf trwy ymweld â trc.cymru/lleoedd/digwyddiadau/eisteddfod
Gellir prynu tocynnau trên ar-lein, trwy wefan Trafnidiaeth Cymru, ar yr ap ffôn symudol arobryn, o beiriannau tocynnau neu swyddfeydd tocynnau.
Nodiadau i olygyddion
- Mae manylion terfynol yn cael eu cytuno arnynt rhwng Arriva a'r Eisteddfod ynghylch amseroedd y bysiau gwennol, a bydd amserlen yn dilyn.