13 Gor 2021
Mae Trafnidiaeth Cymru, Network Rail a’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig wedi creu partneriaeth ar gyfer Wythnos Diogelwch y Rheilffyrdd, gan ymweld ag ysgolion mewn lleoliadau lle mae tresmasu’n broblem i addysgu plant am sut i gadw’n ddiogel ar y rheilffordd.
Bu disgyblion Blwyddyn 6 yn cymryd rhan mewn sgwrs gyda swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, yn ogystal â gweithgareddau darn arweiniad Network Rail a Trafnidiaeth Cymru.
Ymwelodd y sefydliadau â phum ysgol dros y cyfnod o bythefnos gan gynnal gweithgareddau gyda dros 315 o ddisgyblion.
Cafwyd 13,215 o ddigwyddiadau tresmasu ar y rheilffyrdd ledled y DU yn 2019/20. Mae tresmasu yn broblem enfawr ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd ac mae pobl yn rhoi eu hunain mewn perygl difrifol pan fyddant yn mynd i mewn i eiddo’r rheilffyrdd yn anghyfreithlon. Ar ben hynny, mae tresmasu yn cyfrannu’n sylweddol at oedi ar y gwasanaeth trên.
Dywedodd Emily Coughlin, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Network Rail, Cymru a’r Gorllewin: “Mae tresmasu ar y rheilffordd wedi bod yn bryder mawr o ran diogelwch erioed, ond ers i’r cyfyngiadau symud ddod i rym mae mwy a mwy o bobl yn canfod eu hunain mewn llefydd newydd sydd wedi arwain at gynnydd mewn digwyddiadau o’r fath.
Drwy addysgu plant am ddiogelwch rheilffyrdd cyn iddynt ddechrau yn yr ysgol uwchradd, gobeithiwn y byddant yn gwneud y penderfyniadau cywir wrth iddynt ddod yn fwy annibynnol.
Mae’r Rail Safety Olympics wedi cael eu dylunio i gyfleu’r negeseuon diogelwch pwysig hyn mewn ffordd hwyliog ac atyniadol y bydd y plant yn eu cofio.”
Mae Trafnidiaeth Cymru, Network Rail a’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn annog ysgolion cynradd eraill i wirfoddoli ar gyfer y sesiynau, er mwyn iddynt allu cynnal mwy o sesiynau gydag ysgolion ac addysgu mwy o ddisgyblion sut i gadw’n ddiogel ar y rheilffordd.
Gall ysgolion sydd â diddordeb gysylltu â ni yn engagement@tfw.wales