26 Awst 2022
Mae’n bleser gan Trafnidiaeth Cymru noddi Penwythnos Mawr Pride Cymru 2022, y digwyddiad mwyaf yng Nghymru sy'n dathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Eleni, cynhelir y digwyddiad dros dau ddiwrnod ar ddydd Sadwrn 27 a ddydd Sul 28 Awst. Cynhelir y digwyddiad ar lawntiau Neuadd y Ddinas Caerdydd. Bydd yno dri llwyfan â chynhelir gorymdaith milltir o hyd. Bydd bwyd gwerth chweil, cabaret, ardal i'r teulu a llawer mwy.
Mae Pride Cymru yn elusen sy’n cael ei harwain gan wirfoddolwyr sy'n hyrwyddo cael gwared ar wahaniaethu boed hynny ar sail cyfeiriadedd rhywiol, rhyw, hil, crefydd neu allu.
Maent wedi ymrwymo i ymgyrchu dros gydraddoldeb a derbyn amrywiaeth o fewn ein cymunedau ynghyd â chydnabod a dathlu'r cyfraniadau a wna pobl LGBTQ+ mewn cymdeithas. Mae Pride Cymru hefyd yn gweithio i greu cyfleoedd i bobl LGBTQ+ ledled Cymru gysylltu a chefnogi ei gilydd.
Dywedodd Cadeirydd Pride Cymru, Gian Molinu: “Rydym wrth ein bodd ac yn ddiolchgar am gefnogaeth hael Trafnidiaeth Cymru i Pride Cymru eleni. Rydym hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at gael yr Ofod Cymdeithasol ar y safle a fydd yn dod ag elfen newydd i Pride ac yn darparu gofod gwych i bobl gysylltu.”
Y tro diwethaf i ni noddi Pride Cymru oedd nôl yn 2019. Rydym wedi ymrwymo i feithrin partneriaeth barhaol a chynhyrchiol gyda’r elusen hon.
Fel rhan o drefniadau eleni, bydd gan TrC ‘ofod cymdeithasol’ yn yr ŵyl - lle y gall pobl ddod ynghyd i gymdeithasu, sgwrsio a chyfarfod wyneb yn wyneb. Bydd y gofod hwn yn cyd-fynd â'n hymgyrch 'Y Rhwydwaith Cymdeithasol Go Iawn'.
Bydd gennym hefyd stondin yn y digwyddiad lle gall pobl ddod draw am sgwrs. Gellir cael sgwrs am yrfa neu ddysgu mwy am y gwaith rydym yn ei wneud yn adeiladu Metro De Cymru a'r cyfleoedd a ddaw yn ei sgil.
Cyngor teithio
Os ydych yn teithio ar drên i Gaerdydd ar gyfer Pride Cymru, cofiwch wirio cyn teithio.
Bydd rhai newidiadau i rai gwasanaethau trên a bydd bysiau yn lle trên yn rhedeg ar lwybrau penodol fel rhan o’r gwaith i adeiladu’r Metro.
Mae rhagor o wybodaeth am newidiadau i amseroedd trên ar gael yma.