29 Tach 2024
Mae sgrin arddangos digidol sydd wedi'i gynllunio i roi gwybodaeth gwbl ddiweddar i gwsmeriaid yn symud i Orsaf Llandrindod.
Gwelodd y prosiect sgrin arddangos digidol wyth sgrin symudol yn cael eu hanfon i orsaf Caerdydd Canolog ym mis Awst 2023 er mwyn caniatáu i gwsmeriaid ddod o hyd i fanylion allweddol am eu taith yn ogystal â gwybodaeth am yr orsaf a'r ardal leol ar ffurf hunan-wasanaeth.
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) bellach wedi symud un ohonynt i Landrindod ar dreial 12 mis i wella gwasanaeth cwsmeriaid yn un o'r gorsafoedd prysuraf ar lein Calon Cymru.
Mae'r sgrin arddangos digidol wedi ei ailgyflunio a'i ddiweddaru i ddangos gwybodaeth berthnasol ar gyfer Llandrindod. Mae'n gwbl ddwyieithog.
Mae'r sgrin digidol hefyd yn arddangos posteri ar sail gylchdroadol, gan roi gwybod i gwsmeriaid am newidiadau e.e. gwaith peirianyddol, ymgyrchoedd marchnata a chyfleoedd manwerthu.
Mae gan TrC fynediad at borth sy'n eu galluogi i greu a rheoli’r rhestr o gynnwys fel bod modd iddynt deilwra pa bosteri ac ati sy'n cael eu dangos.
Ar hyn o bryd mae'r totemau'n dangos y wybodaeth ganlynol yn ddwyieithog y tu ôl i'r botymau ar y sgrin hafan:
- Cynlluniwch eich taith
- Diweddariadau Byw – gwybodaeth fyw ynglŷn â threnau sy’n cyrraedd a gadael
- Gwybodaeth Ardal Leol – Mae TrC wedi llunio rhestr o atyniadau / cyfleusterau lleol a gall cwsmeriaid lawrlwytho cyfarwyddiadau ynglŷn â sut i’w cyrraedd ar droed drwy god QR, yna gallant eu dilyn ar eu ffôn.
- Gwybodaeth gorsaf
- Gwybodaeth am fysiau yn lle trenau
- Eiddo coll
- Cymorth i Deithwyr
- Llwybrau beicio
- Adborth
- Map trenau byw
- Trenau uniongyrchol nesaf
Mae yna fyrddau lliwiau’r enfys hefyd, sy'n dangos statws y llwybr ar draws y rhwydwaith ar ffurf sydd wedi'i chodio'n â lliw ac sy’n hawdd ei ddefnyddio. Mae negeseuon BSL hefyd wedi cael eu cynnwys yn ddiweddar sy'n cyfleu gwybodaeth ynglŷn ag ymadawiadau byw, yn ogystal â llyfrgell o fideos wedi'u recordio ymlaen llaw ar bynciau fel tarfu, gwaith peirianneg, diogelwch ac yn y blaen.
Dywedodd Ellie Jenkins, Arweinydd Gwybodaeth i Gwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru:
"Dyma’r datblygiad cyntaf o'i fath yn y DU ac mae'n gam ymlaen hynod effeithiol ac arloesol yn ein dull gweithredu sy’n seilidig ar gynwysoldeb lawn i bob cwsmer."