Skip to main content

TrawsCymru T8 introduces enhanced timetable and simplified fares

04 Medi 2026

O ddydd Sul 6 Medi ymlaen, bydd teithwyr Trafnidiaeth Cymru sy'n teithio ar lwybr T8 TrawsCymru sy'n cysylltu Corwen, Rhuthun, yr Wyddgrug a Chaer yn elwa o deithiau hwyrach gyda'r nos, gwasanaeth newydd ar ddydd Sul a strwythur prisiau symlach.

Fe'u cynlluniwyd i ddarparu cyfleoedd teithio gwell i gymunedau lleol, gwella mynediad at gyflogaeth, addysg a chyrchfannau hamdden, a gwneud teithio ar y T8 yn haws ac yn fwy cyfleus.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Trafnidiaeth, Mark Hooper: "Bydd y gwelliannau hyn i wasanaeth T8 TrawsCymru yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau yng Nghorwen, Rhuthun, yr Wyddgrug a Chaer. Mae trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy a fforddiadwy yn hanfodol i helpu pobl i gael mynediad at swyddi, addysg a gwasanaethau bob dydd heb gost rhedeg car.

“Mae buddsoddi mewn gwasanaethau bysiau fel hyn yn rhan allweddol o’n hymrwymiad i gefnogi pobl gyda chostau byw wrth adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth fwy cysylltiedig a chynaliadwy ledled Cymru."

Ychwanegodd Mark Jacobs, Uwch Reolwr Cynllunio a Datblygu TrawsCymru, “Rydym wrth ein bodd o gael gwella'r gwasanaeth T8, a fydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl deithio drwy gydol yr wythnos.

"Bydd cyflwyno gwasanaethau ar ddydd Sul, cynnig teithiau hwyrach gyda'r nos a phrisiau symlach yn ei gwneud hi'n haws i gwsmeriaid gael mynediad at waith, addysg, gweithgareddau hamdden a gwasanaethau hanfodol, gan ddarparu profiad mwy cyson ar draws rhwydwaith ehangach TrawsCymru.”

Mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i adolygu gwasanaethau ar draws rhwydwaith TrawsCymru i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion cwsmeriaid ac yn darparu trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy ledled Cymru.

Anogir cwsmeriaid i wirio'r amserlen ddiweddaraf cyn teithio gan ddefnyddio gwefan TrawsCymru neu'r ap ffôn symudol.

Gellir dod o hyd i'r amserlenni diweddaraf ar wefan TrawsCymru: https://traws.cymru/cy

Nodiadau i olygyddion


Mae prisiau tocynnau T8 TrawsCymru bellach yn gwbl unol â rhwydwaith ehangach TrawsCymru, sy’n rhoi strwythur prisiau cyson a thryloyw i deithwyr. Yn flaenorol, roedd prisiau tocynnau o dan reolaeth Cyngor Sir Dinbych.

Llwytho i Lawr