19 Tach 2026
Bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn cyflwyno gwasanaeth rheilffordd uniongyrchol newydd rhwng Gorllewin Cymru a Bryste o fis Rhagfyr ymlaen.
Bydd gwasanaethau’n rhedeg, yn fras, bob dwy awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, gan ddechrau yn Aberdaugleddau ac Abergwaun. Bydd y gwasanaeth yn galluogi cwsmeriaid sy’n teithio rhwng Gorllewin Cymru a Bryste i gwblhau eu teithiau heb orfod newid trenau yng Nghaerdydd Canolog, gan wneud teithio ar draws y ffin yn symlach ac yn fwy cyfleus.
Bydd TrC yn rhedeg naw gwasanaeth i ac o Fryste bob diwrnod (dydd Llun i ddydd Gwener) a dydd Sadwrn, gan gynnwys wyth o Orllewin Cymru ac un o Gaerdydd. Ar ddydd Sul, bydd pump o wasanaethau’n rhedeg o Orllewin Cymru.
Bydd y gwasanaethau’n dechrau ar 13 Rhagfyr, fel rhan o newidiadau amserlen y diwydiant rheilffyrdd sy’n digwydd ddwywaith y flwyddyn.
Dywedodd Mark Hooper, Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru: "Mae’r gwasanaeth uniongyrchol newydd hwn yn gam mawr ymlaen i reilffyrdd yng Nghymru. Bydd gan bobl mewn cymunedau i’r gorllewin o Gaerdydd ffordd symlach o gyrraedd Bryste, a bydd ymwelwyr yn ei chael hi’n haws archwilio gorllewin Cymru ar y trên – sy’n newyddion da i’n busnesau twristiaeth a’n heconomïau lleol.
"Drwy wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis mwy deniadol, bydd y gwasanaeth hefyd yn helpu i leihau’r pwysau ar yr M4. Byddwn yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru, Network Rail a’n partneriaid ar draws y ffin i sicrhau ei fod yn llwyddiant i deithwyr."
Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad yn Trafnidiaeth Cymru: “Mae hwn yn garreg filltir bwysig wrth wireddu uchelgais hirsefydlog am gysylltiadau rheilffordd gwell rhwng Gorllewin Cymru a Bryste.
“Bydd cwsmeriaid yn gallu teithio’n uniongyrchol o gymunedau i’r gorllewin o Gaerdydd i Fryste heb orfod newid trenau yng Nghaerdydd Canolog. Bydd hyn yn gwneud teithiau’n symlach, yn cynnig mwy o ddewis ac yn creu cyfleoedd newydd i deithio at ddibenion gwaith, addysg a hamdden.
“Mae’r gwasanaeth wedi gofyn am gynllunio helaeth a chydweithio agos â Network Rail a’n partneriaid yn y diwydiant, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu cwsmeriaid ar y trenau o fis Rhagfyr ymlaen.”
Bydd y gwasanaethau newydd, a weithredir gan drenau Dosbarth 197 newydd TrC – sydd wedi’u gwneud yng Nghymru – yn cynnig cysylltiadau uniongyrchol o gymunedau gan gynnwys Caerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd, Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, gan barhau drwy Gaerdydd a Casnewydd i Fryste.
Rhwng Caerdydd a Bryste, bydd y gwasanaethau hefyd yn galw yn Gyffordd Twnnel Hafren a Filton Abbey Wood, gan roi mwy o ddewis i gwsmeriaid ac agor cyfleoedd newydd ar gyfer teithio ar draws De Cymru a De-orllewin Lloegr.
Bydd y gwasanaeth newydd yn ei gwneud hi’n haws i gwsmeriaid deithio at ddibenion gwaith, addysg a hamdden, tra hefyd yn cefnogi ymdrechion ehangach i annog mwy o bobl i ddewis trafnidiaeth gyhoeddus a helpu i leihau’r pwysau ar yr M4 prysur.
Mae cyflwyno gwasanaethau uniongyrchol rhwng Gorllewin Cymru a Bryste wedi bod yn uchelgais hirsefydlog gan Lywodraeth Cymru a TrC, sy’n dyddio’n ôl i ddatganoli pwerau masnachfreinio rheilffyrdd yn 2017.
Mae’r amserlen wedi’i datblygu’n ofalus i ategu gwasanaethau presennol Great Western Railway (GWR) rhwng De Cymru a Bryste.
Bydd gwasanaethau TrC yn rhedeg rhwng gwasanaethau GWR lle bo hynny’n bosibl, gan gynnig mwy o ddewis a chapasiti i gwsmeriaid drwy gydol y dydd.
Nodiadau i olygyddion
- Gellir gweld y llythyr penderfyniad ffurfiol gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (Office of Rail and Road) yma: 52nd Supplemental Agreement to the Track Access Contract between Network Rail Infrastructure Limited (Network Rail) and Transport for Wales Rail LTD (TfW) dated 6 August 2020
- Mae’r hawliau mynediad a gymeradwywyd ar gyfer y gwasanaeth newydd yn cwmpasu’r cyfnodau amserlen o fis Rhagfyr 2026 i fis Rhagfyr 2027. Bydd TrC yn parhau i weithio gyda Network Rail a phartneriaid yn y diwydiant ar ofynion amserlen yn y dyfodol.