Skip to main content

Transport for Wales launches ‘TfW Protect’ to help tackle cable and metal theft across the railway network

27 Gor 2026

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi lansio Diogelu TrC, gwasanaeth riportio dienw pwrpasol sydd wedi'i gynllunio i helpu i fynd i'r afael â lladrad ceblau a metel ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd.

Mae lladrad ceblau a metel yn parhau i fod yn broblem ddifrifol i'r rheilffordd, gan achosi oedi, canslo a tharfu ehangach a all atal pobl rhag cyrraedd y gwaith, apwyntiadau, digwyddiadau a chyrchfannau pwysig eraill.

Drwy lansio Diogelu TrC, mae Trafnidiaeth Cymru yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o'r effaith y mae lladrad metel a cheblau yn ei chael ar deithwyr, cymunedau a'r economi ehangach, gan ddarparu ffordd ddibynadwy a dienw i bobl helpu i'w atal.

Dywedodd Josh Hopkins, Pennaeth Diogelwch, Risg a Gwytnwch yn Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn falch o lansio Diogelu TrC, gan roi ffordd syml a chwbl ddienw i bobl rannu gwybodaeth am ladrad ceblau a metelau sy’n effeithio ar ein rheilffordd.

“Gall y math hwn o drosedd gael effaith wirioneddol ar ein cwsmeriaid a’n cymunedau, ac mae’r wybodaeth a ddarperir gan bobl yn gallu chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i ddiogelu’r rhwydwaith. Rydym yn falch bod Diogelu TrC yn gallu rhoi’r sicrwydd y gellir rhannu gwybodaeth yn ddiogel, yn hyderus ac yn ddienw.”

Anogir unrhyw un sydd â gwybodaeth am ladrad ceblau neu fetel sy'n effeithio ar y rhwydwaith rheilffyrdd i gysylltu â Diogelu TrC, boed yn enwau unigolion, disgrifiadau o bobl, dyddiadau ac amseroedd, neu cyfeiriadau What3words ar gyfer leoliadau anghysbell neu wledig. Mae gan bawb rôl i'w chwarae wrth gadw'r rhwydwaith yn ddiogel, a gallai pob darn o wybodaeth wneud gwahaniaeth.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Diogelu TrC drwy:

Codwch eich llais. Arhoswch yn ddienw. Helpwch i gadw Cymru wedi'i chysylltu.

Nodiadau i olygyddion


Caiff y gwasanaeth ei weithredu gan elusen annibynnol ac mae wedi'i gynllunio i sicrhau y gall pobl rannu gwybodaeth heb ofni dial neu gael eu hadnabod.

Pan dderbynnir gwybodaeth drwy Diogelu TrC:

  • Ni ofynnir byth i ohebwyr am eu henw na'u manylion personol.
  • Nid yw rhifau ffôn yn weladwy i'r gwasanaeth.
  • Ni chaiff galwadau eu recordio.
  • Mae cyfeiriadau IP wedi'u cymysgu.
  • Caiff adroddiadau eu glanhau i gael gwared ar wybodaeth adnabod cyn eu rhannu â TrC.
  • Ni all y gwasanaeth na TrC nodi na olrhain ffynhonnell y wybodaeth.

Mae'r warant anhysbysrwydd hon yn rhoi tawelwch meddwl i bobl wneud y peth iawn wrth helpu i ddiogelu eu cymunedau a'u gwasanaethau rheilffordd

Llwytho i Lawr