Skip to main content

Transport for Wales promotes family rail savings for Cymru home football fixtures.

16 Tach 2026

Gall teuluoedd ledled Cymru deithio am lai cyn dwy gêm bêl-droed ryngwladol sydd ar ddod, wrth i Trafnidiaeth Cymru (TrC) annog cefnogwyr i fanteisio ar ei docyn teulu.

Fel partner teithio swyddogol pêl-droed Cymru, mae TrC yn gweithio'n agos gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru (CPDC) i wneud teithio ar ddiwrnod y gêm yn wyrddach, yn haws ac yn fwy hygyrch i gefnogwyr ledled y wlad, gan helpu teuluoedd i fod yn rhan o ddwy noson fawr yn y brifddinas.

Gyda thocyn teulu TrC, gall hyd at ddau blentyn o dan 16 oed deithio am ddim gyda phob oedolyn sy'n talu am docyn. Gall cefnogwyr sy'n mynd i Stadiwm Dinas Caerdydd ddefnyddio gorsafoedd Parc Ninian a Grangetown i gyrraedd y gêm yn hawdd.

Yn ogystal â phrisiau teuluol fforddiadwy, mae TrC yn cynyddu capasiti ac yn rhedeg gwasanaethau ychwanegol i gefnogi'r 'Wal Goch' wrth iddynt deithio i'r ddwy gêm:

Cymru v Portiwgal | Dydd Mawrth 17 Tachwedd

Gan fod disgwyl torfeydd mawr, mae TrC yn gwneud mwy nag 20 o welliannau i wasanaethau ac yn cynyddu capasiti, gan gynnwys gwasanaeth uniongyrchol hwyr y nos o Gaerdydd Canolog i Gaergybi, sy'n gadael am 22:40.

Cymru (Menywod) v Norwy | Dydd Mawrth 1 Rhagfyr

Mae tîm menywod Cymru yn dychwelyd i Gaerdydd gyda'r nod o gyrraedd record o dros 15,000 o wylwyr ar gyfer gêm ryngwladol menywod yng Nghymru. Mae TrC yn gweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant i drefnu'r teithio ar gyfer y digwyddiad.

Dywedodd Lewis Brencher, Cyfarwyddwr Gweithredol Cwsmeriaid a Chyfathrebu yn Trafnidiaeth Cymru: "Mae mynd â'r teulu i wylio Cymru yn brofiad arbennig, ac rydym am ei gwneud hi mor hawdd a fforddiadwy â phosibl i gefnogwyr sy'n teithio ar draws ein rhwydwaith i'r brifddinas.

"Gyda hyd at ddau blentyn yn gallu teithio am ddim gyda phob oedolyn sy'n talu, gwasanaethau ychwanegol hwyr y nos, nid oes amser gwell i gefnogi'r ddau dîm."

Ychwanegodd Ben Lucey, Pennaeth Gweithrediadau Digwyddiadau. “Wrth i ni baratoi i groesawu torfeydd sylweddol i Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer ein gemau rhyngwladol dynion a menywod, rydym wrth ein bodd bod Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud y daith i’r gemau yn haws.

“Rydym bob amser yn gwerthfawrogi’n fawr yr ymdrechion y mae ein cefnogwyr yn eu gwneud i gefnogi Cymru; felly, mae gallu cynnig profiad llyfn a fforddiadwy ar ddiwrnod y gêm yn hollbwysig i ni.”

Anogir cefnogwyr i gynllunio eu teithiau ymlaen llaw, prynu eu tocynnau cyn mynd ar y trên, a gwirio ap neu wefan TrC am y wybodaeth deithio ddiweddaraf.

https://trc.cymru/lleoedd/digwyddiadau/gemau-rhyngwladol-cymru 

Llwytho i Lawr