Skip to main content

Transport for Wales asks customers to be responsible

23 Tach 2020

Mae gan Trafnidiaeth Cymru neges glir i’r cyhoedd sy’n teithio’r penwythnos hwn; mae’n eu hannog i ddilyn yr holl gyngor teithio’n saffach ac i ymddwyn yn gyfrifol er mwyn Cadw Cymru’n Ddiogel.

Cafodd y cyfyngiadau teithio eu llacio yng Nghymru ar ddiwedd y ‘cyfnod atal byr’ ddydd Llun, ond mae TrC yn atgoffa cwsmeriaid bod ganddynt gyfrifoldeb sylfaenol i ddilyn y canllawiau, i gadw pellter cymdeithasol ar drenau ac mewn gorsafoedd, ac i gynllunio eu teithiau.

Mae TrC hefyd yn pwysleisio bod cyfyngiadau’n dal ar waith ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, felly dim ond os oes gennych chi esgus rhesymol y cewch chi deithio yn yr ardaloedd lle mae hyn yn berthnasol.

Ar ddechrau'r wythnos, fe wnaeth TrC lansio gwiriwr capasiti – porth ar-lein sy’n galluogi cwsmeriaid i wirio cyn teithio er mwyn gweld ar ba drenau mae’r mwyaf o le gwag i allu dilyn mesurau diogelwch COVID-19.

Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Sicrwydd TrC:

“Diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yw ein prif flaenoriaeth, a drwy gydol y pandemig, rydyn ni wedi rhoi rhaglen fanwl ar waith i sicrhau bod y cyhoedd yn ddiogel.

“Fodd bynnag, mae’n bwysig deall bod gan ein cwsmeriaid gyfrifoldeb hefyd.  Dilynwch ein holl gyngor teithio’n saffach, sy’n cynnwys gwisgo gorchudd wyneb, defnyddio hylif diheintio dwylo, dilyn ein systemau ciwio a’n systemau unffordd ac, yn bwysicaf oll, cynllunio eich taith ymlaen llaw.

“Defnyddiwch y gwiriwr capasiti ac ystyried pryd yw'r amser mwyaf diogel i deithio, wedyn cynllunio yn unol â hynny.”

Gyda llawer o dafarndai a bwytai yn cau yn gynharach na’r arfer, caiff teithwyr cymdeithasol eu hannog i deithio adref mor gynnar â phosibl, ac i gynllunio eu taith ymlaen llaw. Mae amserlen lai o wasanaethau yn ei lle oherwydd Covid-19 ac mae gwasanaethau hwyrach yn debygol o fod yn brysur, sy’n ei gwneud yn anoddach cadw pellter cymdeithasol. Bydd timau cymorth ychwanegol ar gael mewn gorsafoedd allweddol er mwyn helpu i reoli diogelwch teithwyr, ac efallai y bydd gofyn i bobl giwio am wasanaethau sy’n arbennig o brysur.

Llwytho i Lawr