19 Rhag 2024
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn falch o gyhoeddi bod cydweithwyr wedi pleidleisio i weithio mewn partneriaeth â Seren Dwt fel Elusen y Flwyddyn ar gyfer 2025. Mae'r cydweithredu cyffrous hwn yn adlewyrchu ymrwymiad TrC i gefnogi cymunedau lleol ac i gael effaith gadarnhaol ledled Cymru.
Mae Seren Dwt yn sefydliad dielw bach sydd ar ymgyrch i ddathlu a chefnogi teuluoedd ledled Cymru sydd â phlentyn sydd wedi'i eni gyda chromosom 21 ychwanegol. Maent yn rhoi Blychau Croeso i fabanod a anwyd gyda Syndrom Down ar draws pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru i ddathlu eu geni ac i gyfeirio teuluoedd at grwpiau cymorth lleol a chenedlaethol.
Mae'r elusen hefyd yn cefnogi teuluoedd i allu cael mynediad at hyfforddiant a gwybodaeth drwy ariannu cyrsiau addysg, gan gynnwys cyrsiau iaith arwyddo Makaton, Iaith a Lleferydd a deall ymddygiad.
Dywedodd Seren Dwt: "Fel achos elusennol cymharol newydd a bach, cawsom ein syfrdanu o glywed bod Seren Dwt wedi cael ei dewis i fod yn Elusen y Flwyddyn TrC. Rydym yn gyffrous iawn i weithio gyda TrC i godi arian y mae mawr ei angen er mwyn parhau i dyfu'r gwasanaethau y mae Seren Dwt yn eu darparu i deuluoedd gyda phlentyn â syndrom Down yng Nghymru, tra’n codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynglŷn â chael babi â syndrom Down yn yr 21ain Ganrif."
Drwy gydol y flwyddyn, bydd Trafnidiaeth Cymru yn cymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian amrywiol gyda chydweithwyr i gefnogi Seren Dwt a bydd lifrai elusen Seren Dwt yn cael ei arddangos ar gerbyd un o’r trenau Mark 4 i hyrwyddo'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan yr elusen fach hon.
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol TrC: “Rydym wrth ein bodd o gael cydweithio â Seren Dwt. Bydd gweithio gyda'r elusen hon yn cynnig cyfle gwych i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'u hymgyrch bwysig a chefnogi elusen sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a theuluoedd yn ein cymunedau."