Skip to main content

Transport for Wales says “Hei Mistar Urdd” to the rail network

07 Mai 2025

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi uno â thipyn o eicon i Gymru.

Lansiwyd trên newydd Mistar Urdd heddiw, 7 Mai, ym Mhort Talbot, cyn i Eisteddfod yr Urdd ddechrau ym Mharc Margam yn ddiweddarach y mis hwn. Yn ogystal, mae TrC wedi cefnogi cronfa’r Urdd Cyfle i Bawb.

Croesawyd y trên gan y Prif Weinidog, Eluned Morgan, ynghyd â Siân Lewis, Prif Swyddog Gweithredol yr Urdd ac Ysgol Tyler’r Ynn.

Mae’r trenau Dosbarth 197 newydd wedi bod yn rhedeg ar draws rhwydwaith Cymru a’r gororau ers 2022 ac maent yn rhan o fuddsoddiad gwerth £800 miliwn TrC mewn trenau newydd sbon.

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan:

“Mae’n wych gweld un o’n trenau newydd wedi’i enwi ar ôl Mr Urdd, sydd â lle arbennig yng nghalonnau cynifer ohonom yng Nghymru a bydd yn dod â gwên i wynebau teithwyr.

“Pa ffordd well o deithio i eisteddfod yr Urdd, a digwyddiadau eraill yng Nghymru’r haf hwn, nag ar un o drenau newydd sbon Trafnidiaeth Cymru.”

Dywedodd Arweinydd Strategaeth y Gymraeg, Lowri Joyce:

“Pwy’n well a mwy eiconig na Mr Urdd, sy’n adnabyddus ymysg pob plentyn yng Nghymru bron a bod. Rydyn ni hefyd yn falch o gefnogi cronfa’r Urdd, Cyfle i Bawb, sy’n galluogi plant o gefndiroedd tlawd i fwynhau gwyliau mewn un o’u sawl gwersyll.

“Rydyn ni’n falch o roi croeso cynnes i’n rhwydwaith iddo cyn i’r Eisteddfod ym Mharc Margam ddechrau felly cadwch olwg amdano wrth iddo deithio ar draws Cymru gyfan.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis:

“Bydd cyrraedd maes yr Eisteddfod ym Margam ar drafnidiaeth gyhoeddus yn hwylus dros ben.

“Bydd gwasanaeth bws yn cael ei ddarparu rhwng orsaf drên Port Talbot a’r Maes, a bydd manylion pellach ar ein gwefan.

Mae hyn yn mynd law yn llaw gyda’n hymrwymiad i gynnal gŵyl werdd a’n ymrwymiad i leihau allyriadau carbon.”