Skip to main content

Transport for Wales offers free travel for military personnel during Remembrance period

02 Tach 2026

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig teithio am ddim ar wasanaethau rheilffordd a holl wasanaethau bws TrawsCymru i bersonél milwrol yn ystod cyfnod y Cofio eleni.

Fel rhan o fenter ehangach, mae'r cynnig teithio am ddim yn agored i bersonél milwrol a chyn-filwyr.

Bydd gan unigolion cymwys yr hawl i deithio am ddim ar holl wasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru (TrC) ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Gwener 6 Tachwedd 2026 - Ar gyfer teithio i, ac o Orsaf Ganolog Caerdydd yn unig ar gyfer Gwasanaeth Cofio TrC
  • Dydd Sul 8 Tachwedd 2026 - Sul y Cofio
  • Dydd Mercher 11 Tachwedd 2026 - Diwrnod y Cadoediad

Bydd y cynnig hefyd ar gael ar holl wasanaethau bws TrawsCymru ar Sul y Cofio a Diwrnod y Cadoediad yn unig.

Cynigir teithio am ddim i aelodau o’r Lluoedd Arfog yn eu gwisg a chyn-filwyr a chyn-bersonél nad ydynt mewn gwisg, a all gyflwyno un o'r mathau adnabod canlynol:

  • Cerdyn adnabod dilys MOD90 y Weinyddiaeth Amddiffyn
  • Cerdyn Rheilffordd Cyn-filwyr, Cerdyn ‘Oyster’ Cyn-filwyr neu Gerdyn Adnabod Cyn-filwyr a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn
  • Dogfennau eraill sy'n cadarnhau statws cyn-filwr (er enghraifft, prawf o bensiwn)

Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o anrhydeddu gwasanaeth ac aberth aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog ac i gefnogi'r rhai sy'n teithio i ddigwyddiadau coffa ledled Cymru a'r gororau yn ystod cyfnod y Cofio eleni.