Skip to main content

Transport for Wales rolls out new technology at seven stations this summer

05 Awst 2026

Bydd technoleg newydd yn cael ei chyflwyno mewn saith gorsaf ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau yr haf hwn i wella hygyrchedd, cymorth i gwsmeriaid a gweithrediadau’r gorsafoedd. 

Bydd y gwaith hwn yn cynnwys cyflwyno gatiau tocynnau wedi'u moderneiddio, dyfeisiau tabled i gydweithwyr a mannau cymorth rhyngweithiol newydd sy’n defnyddio fideo wedi'u gosod yng ngorsafoedd Caerdydd Heol y Frenhines, Castell-nedd, Abertawe, y Rhyl, Caer, Amwythig a Chasnewydd.

Wedi'i gynllunio i wneud mynediad i orsafoedd yn haws ac yn fwy hygyrch, mae'r prosiect yn cyfuno gatiau wedi'u moderneiddio â chefnogaeth well ar lawr gwlad i gadw teithwyr yn symud yn rhwydd fel rhan o fuddsoddiad parhaus Trafnidiaeth Cymru (TrC) mewn seilwaith gorsafoedd.

Dywedodd Darren Haynes, Pennaeth Gweithrediadau Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru: “Bydd y buddsoddiad hwn ar draws saith o’n prif orsafoedd yn gwella gweithrediadau dyddiol y gorsafoedd hyn yn sylweddol ac yn gwella profiad y teithwyr.

“Mae’r diweddariadau hyn wedi’u cynllunio i wneud pob taith yn rhwyddach wrth ddarparu offer modern i’n cydweithwyr rheng flaen er mwyn sicrhau bod ein gorsafoedd yn parhau i fod yn groesawgar ac yn hygyrch i bawb.”

Bydd y gwaith yn digwydd dros bum niwrnod ym mhob lleoliad rhwng dydd Llun 3 Awst a dydd Iau 1 Hydref.
Yn ystod y broses o osod a chomisiynu’r dechnoleg hon, ni fydd y gatiau newydd yn cael eu defnyddio tra bod profion cynhwysfawr yn cael eu cwblhau. Bydd teithwyr yn dal i allu teithio fel arfer, gyda chydweithwyr yn yr orsaf yn cynnal archwiliadau tocynnau â llaw.

Cynghorir teithwyr sy'n defnyddio taliadau digyswllt talu wrth fynd i dapio i mewn bob amser wrth fynd i mewn i’r orsaf a thapio allan wrth adael. Gall methu â thapio allan arwain at dâl am daith anghyflawn, er y gellir cywiro unrhyw fanylion coll yn hawdd trwy ap TrC neu gyfrif ar-lein.

Nodiadau i olygyddion


  • Caerdydd Heol y Frenhines: 3–7 Awst 2026
  • Castell-nedd: 17–21 Awst 2026
  • Abertawe: 24–28 Awst 2026
  • Y Rhyl: 7–11 Medi 2026
  • Caer: 13–18 Medi 2026
  • Amwythig: 21–25 Medi 2026
  • Casnewydd: 26 September–1 Hydref 2026

    • Er mwyn lleihau'r effaith ar gwsmeriaid a chymunedau lleol, bydd y rhan fwyaf o unrhyw weithgareddau adeiladu swnllyd yn cael ei wneud dros nos lle bynnag y bo modd.

    • Bydd cyflwyno Unedau Rheoli Gorsafoedd, sef dyfeisiau tabled wedi'u gosod wrth gatiau tocynnau, yn rhoi ffordd ychwanegol a mwy hygyrch i dimau gorsafoedd weithredu gatiau ochr yn ochr â'r rhaglen symudol CAST bresennol.

    • Bydd Mannau Cymorth Fideo yn darparu mynediad uniongyrchol at gymorth pan fo angen. Mae'r pwyntiau cymorth yn cynnig cyfathrebu fideo a sain dwyffordd, gan alluogi cwsmeriaid i siarad yn uniongyrchol â staff os oes angen cymorth arnynt, er enghraifft os na dderbynnir tocyn wrth giât. Byddant hefyd yn darparu mynediad at wybodaeth hunanwasanaeth.

    • Mae'r Mannau Cymorth Fideo yn rhan o ateb ehangach i gefnogi gweithrediad gatiau tocynnau o bell, gan helpu TrC i ddarparu cymorth i gwsmeriaid yn gyflym ac yn effeithlon wrth gynnal amgylchedd diogel a chroesawgar mewn gorsafoedd.

 

Llwytho i Lawr