03 Gor 2025
Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch iawn o gyhoeddi bod Richards Bros wedi ennill y contract i weithredu gwasanaeth T5 TrawsCymru, gan gysylltu cymunedau allweddol ledled Gorllewin Cymru.
Bydd y contract newydd yn cael ei gyflwyno mewn dau gam, gan ddod ag amrywiaeth o welliannau i drafnidiaeth gyhoeddus yn y rhanbarth.
Mae'r cam cyntaf yn dechrau ddydd Sul, 20 Gorffennaf 2025, gyda chyflwyniad gwasanaeth ar ddydd Sul drwy gydol y flwyddyn ar y T5. Bydd hyn yn gwella opsiynau teithio ar benwythnosau yn sylweddol i drigolion ac ymwelwyr. Yn ogystal â hyn, bydd amserlen ddiwygiedig ar gyfer dydd Sul ar y T1 yn cael ei chyflwyno, gan gynnig mwy o hyblygrwydd a chyfleustra i deithwyr.
Mae'r ail gam yn lansio ddydd Sul, 31 Awst 2025, ac mae'n cynnwys sawl uwchraddiad mawr:
- Gwasanaethau T5 amlach o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, gan symud i amserlen â gwasanaethau bob awr drwy gydol y dydd.
- Teithiau hwyrach gyda'r nos, gan wella mynediad i'r rhai sy'n teithio ar gyfer gwaith, addysg neu resymau hamdden.
- Cyflwyno prisiau tocynnau newydd yn seiliedig ar y pellter a deithiwyd, gan gynnig system brisio decach a gwell gwerth am arian i deithwyr.
- Lansio Tocyn Diwrnod newydd rhwng Aberystwyth ac Aberaeron, sy'n caniatáu teithio diderfyn ar wasanaethau T1 a T5.
Gan edrych tua’r dyfodol, gall teithwyr hefyd edrych ymlaen at gyflwyniad cerbydau newydd sbon o ansawdd uchel ar lwybr y T5 o fis Mawrth 2026, gan wella cysur, hygyrchedd a pherfformiad amgylcheddol ymhellach.
Mae'r gwelliannau hyn yn adlewyrchu ymrwymiad Trafnidiaeth Cymru i ddarparu rhwydwaith bysiau modern, dibynadwy a hygyrch sy'n cefnogi teithio cynaliadwy ac yn cryfhau cysylltedd rhanbarthol.
Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Ranbarthol ac Integreiddio yn Trafnidiaeth Cymru: "Rydym wrth ein bodd o gael gweithio gyda Richards Bros i gyflawni'r gwelliannau cyffrous hyn i wasanaeth T5 TrawsCymru. Mae'r bartneriaeth hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus modern, dibynadwy a hygyrch sy'n diwallu anghenion cymunedau ledled Gorllewin Cymru. Bydd y gwelliannau sy'n cael eu cyflwyno yn ei gwneud hi'n haws i bobl deithio ar gyfer gwaith, addysg a hamddena, gan gefnogi ein nodau cynaliadwyedd hefyd."
Dywedodd Simon Richards, Cyfarwyddwr Richards Bros: "Rydym yn falch o fod wedi cael y contract i weithredu’r gwasanaeth T5 ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda TrC i ddarparu gwasanaeth dibynadwy o ansawdd uchel i deithwyr ledled Gorllewin Cymru. Bydd y gwelliannau hyn, gan gynnwys teithiau amlach ac opsiynau prisiau newydd, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn arbennig o gyffrous am gyflwyno cerbydau newydd yn 2026, a fydd yn cynnig profiad teithio mwy cyfforddus ac ecogyfeillgar."
Am ragor o wybodaeth, ewch i trc.cymru neu dilynwch @Transport_Wales ar y cyfryngau cymdeithasol.