22 Hyd 2026
Bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn croesawu cyfranogwyr EV Rally Cymru i Borthmadog yr wythnos hon, wrth i'r rali deithio trwy Ogledd Cymru, gan arddangos y cynnydd sy'n cael ei wneud ym maes trafnidiaeth gynaliadwy a seilwaith cerbydau trydan ledled y wlad.
Cynhelir yr digwyddiad ar 21 a 22 Hydref, ac mae EV Rally Cymru yn dod â cherbydau trydan, cynrychiolwyr y diwydiant ac eiriolwyr dros gynaliadwyedd ynghyd ar daith ar draws Cymru. Mae'n tynnu sylw at yr arloesiadau a'r seilwaith sy'n helpu i gefnogi'r newid i drafnidiaeth sy'n cynhyrchu llai o garbon.
Fel rhan o ddigwyddiad eleni, bydd Porthmadog yn gweithredu fel pwynt gwirio swyddogol ar gyfer y rali. Bydd hyn yn rhoi cyfle i'r cyfranogwyr stopio yn Eryri cyn parhau â'u taith trwy rai o'r coridorau trafnidiaeth mwyaf golygfaol a strategol bwysig yng Nghymru. Bydd TrC hefyd yn arddangos gwasanaeth bws holl-drydan TrawsCymru T22 – sy'n teithio rhwng Caernarfon a Blaenau Ffestiniog – ym maes parcio Cyngor Gwynedd, sydd wrth ymyl Gorsaf Reilffordd Porthmadog.
Mae cefnogaeth TrC i EV Rally Cymru yn dangos ymrwymiad parhaus i gefnogi'r broses o ddadgarboneiddio trafnidiaeth, ac i annog mwy o hyder mewn teithio mewn cerbydau trydan ledled Cymru. Trwy ei waith gydag awdurdodau lleol a phartneriaid, mae TrC yn parhau i chwarae rhan allweddol wrth wella mynediad at seilwaith gwefru cerbydau trydan, ac wrth gefnogi'r newid ehangach tuag at ddewisiadau teithio mwy cynaliadwy.
Dywedodd Tony Clayton, Rheolwr Rhaglen Seilwaith Cerbydau Trydan yn Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn falch o gefnogi EV Rally Cymru unwaith eto, ac o groesawu cyfranogwyr i Borthmadog wrth iddynt deithio ar draws Cymru.
“Mae'r rali yn gyfle gwych i dynnu sylw at y cynnydd sy'n cael ei wneud wrth ehangu rhwydwaith gwefru cerbydau trydan Cymru, ac i ddangos y gall pobl deimlo'n hyderus wrth deithio pellteroedd hirach mewn cerbyd trydan.”
“Trwy ein gwaith gydag awdurdodau lleol a phartneriaid ledled Cymru, rydym yn helpu i wella mynediad at seilwaith gwefru ac yn cefnogi’r newid i drafnidiaeth sy’n cynhyrchu llai o garbon. Mae digwyddiadau fel EV Rally Cymru yn chwarae rhan bwysig wrth arddangos y cynnydd hwnnw ac annog mwy o bobl i newid i gerbydau trydan.”
Nod EV Rally Cymru yw arddangos cryfder cynyddol rhwydwaith cerbydau trydan Cymru, a dathlu’r sefydliadau a’r cymunedau sy’n helpu i hyrwyddo uchelgeisiau datgarboneiddio’r genedl. Mae llwybr y rali yn tynnu sylw at leoliadau ledled Cymru sy’n chwarae rhan bwysig yn y newid tuag at drafnidiaeth sy’n lanach ac yn wyrddach.
I TrC, mae cefnogi’r digwyddiad yn cyd-fynd â’i genhadaeth ehangach i greu rhwydwaith trafnidiaeth mwy cynaliadwy ac integredig sy’n gweithio er budd pobl, cymunedau a’r amgylchedd.