Skip to main content

Transport for Wales renews supports for the Urdd’s ‘Cronfa Cyfle i Bawb’ (Fund for All)

21 Mai 2026

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi rhoi ei gefnogaeth unwaith eto i fenter ‘Cronfa Cyfle i Bawb’ Urdd Gobaith Cymru cyn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae TrC yn cefnogi'r fenter i roi cyfle i blant o bob cefndir ledled Cymru fynychu’r gwersylloedd haf a gynhelir gan ganolfan breswyl yr Urdd.

Wrth i eisteddfod yr Urdd, gŵyl gelfyddydau a diwylliant ieuenctid fwyaf Ewrop, gyrraedd Maes Sioe Môn o 23 Mai – 29 Mai, mae'r bartneriaeth hon yn sicrhau bod cerrig milltir diwylliannol a dathliad yr iaith Gymraeg yn hygyrch i bawb.

Anogir teithwyr sy'n teithio i'r Eisteddfod yr wythnos nesaf i gadw llygad am drên eiconig Mistar Urdd. Mae’r trên dosbarth 197 sydd wedi'i frandio'n arbennig wedi dod yn olygfa boblogaidd ymysg teithwyr ers ei lansio y llynedd.

Bydd TrC hefyd ar y Maes a bydd yn rhannu ei stondin gyda phartneriaid seilwaith Network Rail lle bydd ymwelwyr yn gallu dysgu am fanteision y newidiadau diweddar i'r amserlen a phwysigrwydd diogelwch rheilffyrdd.

Dywedodd Lowri Joyce, Pennaeth y Gymraeg yn Trafnidiaeth Cymru: "Rydym wrth ein bodd o gael bod yn ôl ar y Maes am flwyddyn arall.

“Mae gweld trên Mistar Urdd allan ar y cledrau bob amser yn dod â gwên i wynebau ein teithwyr ac rydym yr un mor falch o gefnogi’r fenter ‘Cronfa i Bawb’ am yr ail flwyddyn. Mae sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru’r cyfle i gymryd rhan yn y cerrig milltir diwylliannol hyn wrth wraidd yr hyn a wnawn.”

Mae TrC a’r Urdd yn annog ymwelwyr i ddewis opsiynau teithio cynaliadwy wrth deithio i’r eisteddfod ar Faes Sioe Môn. Am ragor o wybodaeth, ewch i: Cyrraedd y Maes | Urdd Gobaith Cymru

Llwytho i Lawr