Skip to main content

Transport for Wales one step closer to opening its new headquarters in Pontypridd

29 Gor 2020

Yr wythnos yma, bydd y gwaith yn dechrau o osod brand Trafnidiaeth Cymru (TrC) ar ei bencadlys newydd sbon yn Llys Cadwyn yng nghanol tref Pontypridd.

Llofnodwyd y cytuneb am Les 15 mlynedd gyda Cyngor Rhondda Cynon Taf (RhCT) ar gyfer 3 Llys Cadwyn yn swyddogol gan TrC ym mis Hydref 2019. Mae contractwr adeiladu RhCT, Wilmott Dixon, ar y trywydd iawn i gwblhau’r gwaith erbyn yr hydref hwn, gyda Chyngor RTC yn bwriadu trosglwyddo allweddi’r adeilad yn swyddogol ar 19 Hydref 2020. Bydd TrC yn arwyddo'r les 15 mlynedd yn swyddogol gyda RhCT pan fydd yn cymryd meddiant.

Llys Cadwyn branding

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Rydyn ni wedi bod yn cynllunio ein hadleoliad i Bontypridd ers dros dair blynedd, felly mae cael gweld ein brand yng nghanol y dref yn mynd i fod yn foment falch a phwysig iawn i dîm TrC, heb sôn am ein holl bartneriaid, yn enwedig Llywodraeth Cymru a’n cydweithwyr yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, sydd wedi chwarae rhan bwysig yn ein helpu i droi ein dyheadau o greu pencadlys ar gyfer y dyfodol yn realiti.

“Mae ein hadleoliad i Bontypridd yn dod ar adeg pan fo'r dref a’i phobl wedi dioddef trasiedi a chaledi sylweddol yn sgil y llifogydd torcalonnus ar ddechrau’r flwyddyn, ac yna effeithiau pandemig y coronafeirws. Rydw i’n gobeithio y bydd ein cyrhaeddiad yn dod â lefelau uchel o gyffro a disgwyliad gan y cymunedau lleol wrth i’n taith i Bontypridd ddod yn nes ac wrth i ni ddod yn rhan sylweddol o’r dref. Byddwn ni’n dod â hwb economaidd enfawr gyda ni a channoedd o swyddi i Bontypridd wrth i ni barhau i geisio darparu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy y gall pobl Cymru fod yn falch ohono.

“Efallai ein bod ni dal yn sefydliad ifanc, ond mae gennyn ni gynlluniau beiddgar ac uchelgeisiol yr ydym ni’n eu cyflawni. Mae ein Hadroddiad Blynyddol a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn cynnig trosolwg da o beth rydyn ni wedi’i gyflawni dros y 12 mis diwethaf, ac mae gennyn ni lawer o bethau, cyffrous ar ôl i’w gwneud. Wrth i ni barhau i dyfu, rydyn ni’n parhau i greu cyfleoedd a swyddi newydd, gan gynnwys ein Cynllun Graddedigion newydd, y byddwn ni’n ei lasio yn yr hydref. Dydy heriau'r coronafeirws ddim wedi’i ein rhwystro ni rhag llwyddo i recriwtio a chynefino pobl newydd i deulu TrC. Mae swyddi a lleoliadau newydd yn cael eu hysbysebu’n rheolaidd, a byddwn i’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â’n tîm talentog ac ymrwymedig i gofrestru eu diddordeb ar ein gwefan https://trc.cymru/gwybodaeth/ceiswyr-swyddi

“Rydyn ni eisiau cael ein hadnabod fel sefydliad arloesol o’r radd flaenaf, ac rydyn ni eisiau i’n brand a phopeth mae’n ei gynrychioli fod yn rhan eiconig o deulu brand-Cymru. Gobeithio y bydd pobl Pontypridd yn gallu edrych yn ôl yn falch mewn blynyddoedd i ddod a dweud dyma le dechreuodd taith TrC.”

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf:

“Mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i gymryd camau cadarnhaol o ran meddiannu 3 Llys Cadwyn, gyda’r deunyddiau brandio newydd yn arwydd o’r camau olaf cyn iddynt symud i Bontypridd.

“Mae hwn yn gyfnod prysur i Bontypridd, sy’n ganolog i gynllun Metro De Cymru. Bydd 24 trên yn stopio ym Mhontypridd bob awr, 12 yn teithio i’r gogledd a 12 yn teithio i’r de, gan ddarparu gwasanaeth modern, effeithlon a rheolaidd i gefnogi cyfleoedd gwaith a hamdden i drigolion.

“Mae argyfwng cenedlaethol y coronafeirws wedi dangos bod angen i ni gefnogi canol ein trefi yn fwy nag erioed, a drwy adleoli Trafnidiaeth Cymru i Bontypridd, mae disgwyl y bydd cynnydd yn nifer y bobl yng nghanol y dref bob dydd - a fydd yn hwb i fasnachwyr.

“Gydag 1 Llys Cadwyn eisoes yn weithredol, gall pobl weld bod Cyngor Rhondda Cynon Taf o ddifri am fuddsoddi yn y cyfleusterau a’r seilwaith diweddaraf er budd trigolion - ar yr un pryd â chreu twf economaidd a ffyniant i Rondda Cynon Taf.

“Bydd Llys Cadwyn yn ased gwych i Bontypridd, ac mae eisoes wedi adfywio’r safle strategol hwn yng nghanol y dref - a fu’n segur am nifer o flynyddoedd. Bydd y datblygiad yn dod â hwb economaidd i fusnesau, a dim ond un o’r prosiectau cyffrous sy’n cael eu cyflwyno’n lleol yn y dyfodol agos yw hwn."

Llys Cadwyn fydd pencadlys TrC ond bydd yn parhau i fod â thimau yn Hyb Trefforest, Depo Ffynnon Taf a swyddfa Gogledd Cymru yn Wrecsam. Bydd ei dimau Arlwyo yn parhau i fod wedi’u lleoli yn un o’i bedwar gorsaf gwasanaeth – Caerfyrddin, Caer, Casnewydd ac Amwythig.