05 Chw 2026
O 5 Chwefror 2026 tan fis Mai 2026, bydd y gyffordd yn Comins Coch, sy'n ymuno â'r A487, ar gau er mwyn gallu adeiladu llwybr beicio newydd fel rhan o gynllun gwelliannau teithio llesol.
Drwy gydol y cyfnod hwn, mae TrC a Lloyds Coaches wedi ymrwymo i gynnal opsiynau teithio dibynadwy ar gyfer preswylwyr, myfyrwyr a chymudwyr sy'n dibynnu ar wasanaethau bysiau lleol.
Er mwyn lleihau unrhyw darfu a sicrhau mynediad parhaus i gyrchfannau allweddol, bydd y trefniadau canlynol mewn lle:
Bydd bws gwennol pwrpasol, CC2, yn gweithredu dros dro rhwng:
- Comins Coch (Safle Bws Brongwinau)
- Lluest ar gyfer Coleg Ceredigion
- Waunfawr
- Gorsaf Fysiau Aberystwyth (Safle 4)
Bydd y CC2 yn darparu cysylltiad dibynadwy i'r rhai a fyddai fel arfer yn cael mynediad at wasanaethau o'r safle bws ar yr A487 yn Comins Coch.
Er y byddwn yn parhau i lynu at yr amserlen presennol, bydd y T2 a'r T28 yn dilyn gwyriad ar yr A487, gan alw heibio Archfarchnad CK a Maesceinion yn Waunfawr cyn ail-ymuno â’r A487. Mae'r safleoedd hyn yn darparu mynediad parhaus i leoliadau allweddol gan gynnwys Ysgol Penglais a Chartref Gofal Hafan y Waun. Ni fydd y ddau wasanaeth yn galw yn safle bws yr A487 Comins Coch yn ystod y cyfnod cau.
Er mwyn hwyluso eich taith drwy Waunfawr yn ystod y gwaith, bydd y safleoedd bws canlynol yn cael eu defnyddio:
- Safle Bws Maesceinion ar gyfer holl wasanaethau T2 a T28.
- Bydd yr holl safleoedd bws presennol mewn defnydd yn Waunfawr.
- Ni fydd y safleoedd bws ar hyd Rhoshendre yn cael eu gwasanaethau yn ystod y gwaith.
Mae TrC a Lloyds Coaches yn cyd-weithio i leihau amhariad ar wasanaethau i deithwyr er mwyn sicrhau bod y gymuned yn parhau i fod â chysylltiad da yn ystod cyfnod y gwaith.
Meddai Mark Jacobs, Uwch Reolwr Cynllunio a Datblygu TrawsCymru:
“Rydym yn deall pa mor hanfodol yw trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy i'r gymuned, yn enwedig yn ystod cyfnodau o waith ffordd. Mae'r trefniadau dros dro hyn wedi'u cynllunio i sicrhau y gall teithwyr barhau i gael mynediad at addysg, i gyrraedd y gwaith, gwasanaethau a'r rhwydwaith ehangach yn ddi-drafferth.”
Ychwanegodd Dan Lloyd, Rheolwr Gyfarwyddwr Lloyds Coaches:
“Mae'n bleser cydweithio â TrC i gynnal cysylltiadau teithio pobl leol tra bydd y gwelliannau hanfodol hyn yn cael eu gwneud. Ein blaenoriaeth yw sicrhau y gall teithwyr barhau i deithio'n ddiogel ac yn ddibynadwy, a bydd y gwasanaeth bws gwennol a'r dargyfeiriadau yn helpu i gynnal y gwasanaethau hanfodol hyn i'r gymuned."
Anogir teithwyr i wirio cyn teithio drwy gydol y cyfnod cau i gael y wybodaeth ddiweddaraf.