Skip to main content

Transport for Wales celebrates fleet performance

04 Chw 2021

Mae Trafnidiaeth Cymru’n falch o gadarnhau ei fod wedi cyrraedd targedau argaeledd y fflyd bob dydd ers dros flwyddyn.

Er bod y flwyddyn hon yn un o’r rhai mwyaf cythryblus ar gofnod, mae’r dull cyson o ran darparu digon o drenau i gyflawni’r amserlen bob dydd wedi golygu bod cwsmeriaid wedi gweld llai o drenau’n cael eu canslo a’u bod yn gallu teithio gyda mwy o gapasiti a hyder.

Wrth i’r argaeledd gynyddu, mae’r Milltiroedd fesul Digwyddiad Technegol wedi hefyd, diolch i waith caled timau cynnal a chadw TrC yn Nhreganna Caerdydd, Machynlleth a Chaergybi ac i’r timau cynllunio.

Er i’r amserlen newid yn sylweddol yn 2019-20, roedd heriau eraill yn cynnwys cyflwyno fflyd Class 170, adnewyddu trenau, tynnu’r trenau Class 142 Pacers o’r gwasanaeth a rhoi mesurau ar waith yn ystod pandemig parhaus COVID-19. Her arall y tîm oedd cyflawni amserlen mis Rhagfyr 2019, lle roedd cynnydd o 40% yng ngwasanaethau dydd Sul, diwrnod a fyddai fel arfer yn caniatáu i waith cynnal a chadw gael ei wneud.

Dywedodd Jonathan Thomas, Pennaeth Fflyd Trafnidiaeth Cymru:

“O gofio’r anawsterau yn 2018, rydyn ni’n falch iawn ein bod wedi cyrraedd y targed hwn ac mae’n dangos pa mor bell rydyn ni wedi dod fel tîm. Mae gweithredu cynlluniau i gynyddu argaeledd a chynnal adolygiad o strwythur ein sefydliad er mwyn gosod sylfaen gadarn ar gyfer cyflawni ein cynlluniau wedi talu ar ei ganfed.

“Rydyn ni wedi gweithio mewn ffordd fwy deinamig gyda gweithrediadau, cynlluniau a pherfformiad er mwyn galluogi ein timau cynnal a chadw craidd i gyflawni’r targedau er gwaethaf heriau COVID-19, ac mae hyn yn llwyddiant go iawn i ni a’n cwsmeriaid.”

Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Gweithredu Dros Dro TrC:

“Roedden ni’n cadw’n dawel am ein targed i gyflawni’r garreg filltir wych hon gan nad oedden ni eisiau temtio ffawd.

“Mewn blwyddyn na allai neb fod wedi’i rhagweld, mae ein pobl wedi fy rhyfeddu gyda’u hymrwymiad i wasanaethu ein cwsmeriaid. Da iawn i holl gydweithwyr y fflyd a diolch am roi rheswm i ni gyd wenu.”

Un o’r heriau mwyaf a oedd yn wynebu Trafnidiaeth Cymru ar ôl iddyn nhw ymgymryd â gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a’r Gororau oedd bodloni’r gofyniad dyddiol o ran unedau. Yn fuan ar ôl i’r gweithrediadau ddechrau ym mis Hydref 2018, cafodd fflyd TrC ei chwalu gan un o’r tymhorau hydref gwaethaf erioed. Roedd y stormydd, y llifogydd a’r cynnydd enfawr mewn olwynion fflat yn gwthio tîm fflyd TrC i’r eithaf wrth iddynt weithio bob awr o’r dydd i wneud gwaith atgyweirio.

Ar rai diwrnodau, doedd dim modd defnyddio bron i draean o’r holl drenau oherwydd difrod ac o ganlyniad i hynny, roedd y cwsmeriaid yn wynebu siwrneiau anghyfforddus ar drenau gyda llai o gerbydau ac roedd rhai gwasanaethau’n cael eu canslo’n gyfan gwbl.

Ers hynny, mae cynllun dibynadwyedd cadarn wedi cael ei roi ar waith yn y fflyd, ynghyd â buddsoddiad wedi’i dargedu mewn teclynnau diogelu olwynion, offer sandio awtomatig a thurniau. Gan fod mwy o ddeunyddiau ar gael a bod y gadwyn gyflenwi’n cael ei rheoli’n well, roedd TrC yn gallu rhagweld a llunio llwythi gwaith a lliniaru risgiau yn brydlon.

O ganlyniad, roedd gwelliant mawr yn nhymor yr Hydref 2019, ac er gwaethaf tair storm fawr ym mis Ionawr a Chwefror 2020, roedd TrC yn gallu rhagori ar y targedau cyflawni am flwyddyn galendr lawn.

Llwytho i Lawr