Skip to main content

Network Rail and Transport for Wales get ready for North Wales timetable boost and invite communities to local drop-in sessions

15 Mai 2026

Bydd teithwyr ar draws Gogledd Cymru yn elwa o gynnydd mawr mewn gwasanaethau trên o ddydd Sul 17 Mai, gyda gwasanaethau ar hyd llinell Arfordir Gogledd Cymru yn cynyddu tua 50%.  

Bydd yr amserlen estynedig yn darparu gwell cysylltedd, mwy o gapasiti a dewisiadau teithio mwy hyblyg i gymunedau ar draws y rhanbarth, gan helpu i wella mynediad at swyddi, addysg a chyrchfannau hamdden ledled Gogledd Cymru a thu hwnt. 

Mae'r gwelliannau'n rhan o raglen ehangach Rhwydwaith Gogledd Cymru, sy'n cael ei chyflwyno gan Trafnidiaeth Cymru mewn partneriaeth â Network Rail.

Ochr yn ochr â'r newidiadau i'r amserlen, mae trigolion ym Mhrestatyn a Phensarn yn cael eu gwahodd i fynychu sesiynau galw heibio lleol i ddysgu mwy am y gwaith sy'n digwydd i ddarparu ar gyfer y cynnydd mewn gwasanaethau yn ddiogel.

Bydd y sesiynau’n rhoi cyfle i drigolion lleol siarad yn uniongyrchol â thimau’r prosiect, gweld y cynlluniau diweddaraf a gofyn cwestiynau am waith sydd ar ddod yn eu cymunedau.

Y sesiynau galw heibio: 

  • Dydd Mawrth 19 Mai, 15.00 - 18.00 | Canolfan Gymunedol Tŷ Caradoc, Prestatyn  
  • Dydd Mercher 20 Mai, 15.00 - 18.30 | Y Peacock Lounge, Parc Gwyliau Tŷ Gwyn, Pensarn 

Er y bydd yr amserlen estynedig yn dod â manteision sylweddol i deithwyr a chymunedau lleol, mae hefyd yn cynyddu'r risg diogelwch wrth groesfannau rheilffordd ar hyd y llwybr. 

Mae croesfannau yn Nhŷ Gwyn a Phen Uchaf ym Mhensarn, a Sandy Lane a Beverley Drive ym Mhrestatyn, ymhlith y croesfannau risg uchaf ar rwydwaith Cymru a’r Gororau. Byddai’r cynnydd mewn gwasanaethau trên, gyda threnau’n teithio ar gyflymder o hyd at 90mya, yn cynyddu’r risg yn sylweddol i bobl sy’n defnyddio’r croesfannau.

Yn gynharach eleni, dechreuodd Network Rail waith paratoi yn y ddau leoliad cyn adeiladu pontydd troed hygyrch newydd, a chyflwynwyd fesurau diogelwch dros dro ym mhob un o'r pedair croesfan i baratoi ar gyfer yr amserlen estynedig.

Ychwanegodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru: “Bydd yr uwchraddiadau hanfodol hyn yn ein galluogi i gynyddu nifer y gwasanaethau trên ar Arfordir Gogledd Cymru yn ddiogel gan tua 50%. Bydd y capasiti ychwanegol hwn yn gwella dibynadwyedd a chysylltedd ar draws y rhanbarth, gan gefnogi teithio mwy cynaliadwy a chysylltu cymunedau’n well.

“Fodd bynnag, mae gwasanaethau amlach hefyd yn cynyddu lefel y risg mewn croesfannau rheilffyrdd. Rydym yn cefnogi’r cynigion hyn yn llwyr, a fydd yn cau croesfannau risg uchel ac yn darparu hygyrchedd a diogelwch gwell trwy bontydd troed newydd.”

Dywedodd Gwyn Rees, Cyfarwyddwr Rhaglen yn Network Rail Cymru a'r Gororau: “Bydd y gwelliannau amserlen hyn yn rhoi hwb mawr i gymunedau ac ymwelwyr ledled Gogledd Cymru, gan ddarparu gwasanaethau yn fwy aml, cysylltedd gwell a mwy o hyblygrwydd i deithwyr sy'n teithio ar hyd yr arfordir.  

“Er mwyn cefnogi'r cynnydd hwn mewn gwasanaethau yn ddiogel, rydym hefyd yn buddsoddi mewn pontydd troed hygyrch newydd ym Mhrestatyn a Phensarn, gan helpu i greu rheilffordd fwy diogel a hygyrch i bobl leol.

“Rydym yn croesawu cymunedau lleol i ymuno â ni yn ein sesiynau galw heibio sydd ar ddod i ddysgu mwy am y cynlluniau, siarad yn uniongyrchol â thîm y prosiect a deall sut y bydd y gwelliannau hyn o fudd i'r rhanbarth am flynyddoedd i ddod.”

Llwytho i Lawr