22 Gor 2025
Mae TrawsCymru yn ailgyflwyno ei docyn grŵp poblogaidd am gyfnod cyfyngedig, gan gynnig cyfle anhygoel i deuluoedd a grwpiau bach archwilio Cymru am lai o arian.
Am ddim ond £8, gall cwsmeriaid archwilio eu hardal leol neu fynd ar deithiau diwrnod am bris fforddiadwy, gan gyflwyno cyfleoedd newydd er mwyn i bawb ddarganfod Cymru.
Mae'r cynnig ar gael i hyd at ddau oedolyn a phedwar plentyn dan 16 oed ar gwasanaethau T1, T2, T3, T6, T10 a T22 rhwng 20 Gorffennaf a 30 Awst 2025.
Dywedodd Huw Morgan, Pennaeth Trafnidiaeth Integredig a Datblygu Rhwydwaith Bysiau: “Rwy’n falch iawn o weld y tocyn grŵp yn dychwelyd ar gyfer 2025. Mae’n rhoi opsiynau teithio cyhoeddus fforddiadwy i bobl, sy’n eu hannog i grwydro a chael profiadau haf bythgofiadwy ledled Cymru, a gobeithio y bydd pobl yn manteisio’n llawn arno.”
Gall teithwyr TrawsCymru hefyd elwa o nifer o gynigion eraill, gan gynnwys gostyngiad o 50% ar docynnau a brynir ar yr ap am y tro cyntaf a hefyd tocynnau £1 i Ben y Fan. Mae telerau ac amodau ar wahân yn berthnasol i bob cynnig.
I gael gwybod am ddigwyddiadau ac atyniadau y gallwch eu harchwilio ar fws, ewch i wefan TrawsCymru.
Nodiadau i olygyddion
Telerau ac amodau ar gyfer tocyn grŵp:
- Yn ddilys am 1 diwrnod
- Hyd at 2 oedolyn a 4 plentyn dan 16 oed
- Yn ddilys ar un llwybr yn unig ac ni ellir ei drosglwyddo i lwybrau TrawsCymru eraill
- Ar gael ar gyfer gwyliau'r haf rhwng 20 Gorffennaf a 30 Awst 2025
- Rydym yn cadw'r hawl i dynnu'r cynnig hwn yn ôl ar unrhyw adeg
- Ni ddylid ei ddefnyddio ar y cyd ag unrhyw gynnig arall
- Rhaid prynu tocynnau ap cyn teithio