Skip to main content

Pay As You Go extended to almost 100 stations

26 Tach 2024

Gall teithwyr y rheilffyrdd sy'n teithio ar draws Metro De Cymru nawr gael mynediad at ffyrdd haws o dalu a thocynnau sy’n cynnig gwerth gwych am arian gyda system Talu Wrth Fynd newydd

Trafnidiaeth Cymru yw'r rhwydwaith trenau cyntaf y tu allan i Lundain a De Ddwyrain Lloegr i gyflwyno'r system dalu hon.

Mae'r dechnoleg tapio i mewn a thapio allan ar gael mewn 95 o orsafoedd Trafnidiaeth Cymru (TrC) ledled De Cymru, gan gynnwys holl linellau'r Cymoedd ac ar lwybrau i Ben-y-bont ar Ogwr, Maesteg, Bro Morgannwg, Y Fenni a Chas-gwent.

Gellir defnyddio Talu Wrth Fynd ar gyfer teithiau unffordd gyda phrisiau yn dechrau o £2.60 yn unig, a gyda chapio awtomatig dyddiol ac wythnosol, maent yn cynnig arbedion sylweddol o’u cymharu â thocynnau unffordd Unrhyw Bryd safonol a thocynnau tymor 7 diwrnod.

Nid oes angen prynu tocyn corfforol neu ddigidol, gall teithwyr dapio i mewn ac allan gan ddefnyddio eu cerdyn banc. Mae goruchwylwyr y trenau bellach yn cario darllenydd cardiau sy'n gallu gwirio os yw teithwyr wedi tapio i mewn ar ddechrau eu taith.

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Rwy'n falch iawn ein bod bellach yn gallu cynnig ffordd symlach a thecach i deithwyr deithio gyda’r system Talu wrth Fynd newydd.

"Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol arall tuag at ein huchelgais o drawsnewid ein rheilffyrdd ac adeiladu gwasanaeth metro o'r radd flaenaf sy'n ein galluogi i ddarparu gwasanaethau ‘cyrraedd a mynd' o safon uchel i deithwyr."

Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol Trafnidiaeth Cymru: "Ers lansio Talu Wrth Fynd fel treial ar ddechrau'r flwyddyn rydym eisoes wedi gweld mwy na 65,000 o bobl yn dewis y ffordd syml a chost-effeithiol hon o dalu am eu teithiau.

"Rydym wedi buddsoddi'n sylweddol mewn gatiau tocynnau newydd ar gyfer ein gorsafoedd ac mae ein tîm wedi gweithio'n gyflym i sicrhau bod y dechnoleg newydd wedi’i gosod a’i phrofi ac yn barod ar gyfer teithwyr erbyn diwedd y flwyddyn.

"Mae hwn yn gam pwysig arall ym mhrosiect Metro De Cymru a dyma'r cynllun Talu Wrth Fynd cyntaf, lle’r oll sydd angen i deithwyr ei wneud yw defnyddio eu cerdyn banc, y tu allan i Lundain a De-ddwyrain Lloegr."

Nodiadau i olygyddion


I gael rhagor o wybodaeth am Talu Wrth Fynd, ewch i Talu wrth fynd | Trafnidiaeth Cymru Gellir dod o hyd i wybodaeth fanwl am docynnau a chapio yma Prisiau a chapio | Trafnidiaeth Cymru