29 Medi 2026
Mae teithiau trên tapio i mewn ac allan bellach ar gael mewn 25 o orsafoedd yng ngogledd-ddwyrain Cymru, wrth i TrC ehangu’r system newydd i 10 gorsaf arall ar y rhwydwaith.
Lansiodd TrC docynnau tapio i mewn ac allan am y tro cyntaf yng ngogledd Cymru ym mis Mai 2026 mewn 15 o orsafoedd ar draws y rhanbarth, ac yn dilyn ei lwyddiant, mae bellach wedi cael ei ehangu ymhellach.
Y 10 gorsaf newydd sy'n ymuno â'r rhwydwaith yw:
- Caer
- Y Waun
- Y Fflint (gan gynnwys Lefel Isel Shotton)
- Frodsham
- Gobowen
- Helsby
- Prestatyn
- Y Rhyl
- Rhiwabon
- Dwyrain Runcorn
Mae talu wrth fynd yn cynnig ffordd symlach a mwy hyblyg i gwsmeriaid deithio, heb fod angen prynu tocyn cyn y daith. Drwy dapio i mewn ac allan, codir y pris gorau posibl ar gwsmeriaid am y teithiau y maent yn eu gwneud, a gallant hefyd elwa ar gapiau prisiau dyddiol ac wythnosol i gael gwell gwerth fyth am eu harian.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper AS: "Mae pobl eisiau trafnidiaeth gyhoeddus i ffitio o gwmpas eu bywydau; i fynd i’r gwaith, teithio i'r coleg, ymweld â theulu a mwynhau diwrnod allan.
"Bydd cyflwyno tocynnau Talu wrth Fynd ar draws gogledd Cymru yn gwneud teithio ar y trên yn haws ac yn fwy hyblyg i filoedd o deithwyr, ac yn lleihau’r angen i gynllunio ymlaen llaw.
"Rwy'n falch y bydd mwy o gymunedau yn elwa o'r gwasanaeth hwn wrth i ni barhau i wella cysylltiadau trafnidiaeth ar draws gogledd Cymru, gan wneud hi'n haws i bobl cadw mewn cysylltiad."
Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol Trafnidiaeth Cymru: "Ers cyflwyno’r system tapio i mewn a thapio allan ar draws gogledd-ddwyrain Cymru, rydym wedi gweld cymaint y mae cwsmeriaid yn gwerthfawrogi gallu teithio heb fod angen prynu tocyn cyn eu taith."
"Mae ehangu i ragor o orsafoedd yn golygu y gall hyd yn oed mwy o bobl dapio i mewn ac allan a manteisio ar ein prisiau gorau, gan wneud teithio ar y rheilffordd yn symlach ac yn fwy cyfleus.
"Rydym yn parhau i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn haws ei defnyddio er mwyn helpu mwy o bobl i ddewis teithio cynaliadwy ledled gogledd Cymru."
Rhaid i gwsmeriaid dapio i mewn ar y dechrau pob taith a thapio allan ar y diwedd gan ddefnyddio'r un cerdyn banc neu ddyfais dalu, er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid yn talu’r pris cywir.
Anogir cwsmeriaid hefyd i gofrestru ar gyfer cyfrif talu wrth fynd drwy ap TrC, lle gallant gael cymorth gwell i gwsmeriaid, gweld hanes eu teithiau a'u taliadau, cael mynediad at dderbynebau teithio a derbyn rhybuddion os byddant yn anghofio tapio allan.
Mae TrC yn gweithio gyda gweithredwyr eraill yn y rhanbarth, fel Merseyrail, i archwilio opsiynau i wella'r cynnig i gwsmeriaid o ran talu wrth fynd, yn enwedig mewn gorsafoedd lle mae'r cynlluniau'n cwrdd.
Nodiadau i olygyddion
- Mae hyn yn nodi ail gam cynllun teithio digyswllt TrC drwy dapio i mewn a thapio allan yng ngogledd-ddwyrain Cymru a'r gororau, yn dilyn ei lansio ym mis Mai 2026 ar draws 15 o orsafoedd yn y rhanbarth.
- Mae ehangu’r system tapio i mewn a thapio allan yn ddigyswllt yn rhan o uchelgeisiau ehangach Rhwydwaith T Trafnidiaeth Cymru ac yn garreg filltir hollbwysig wrth gyflawni rhaglen Rhwydwaith Gogledd Cymru. Nod y rhaglen yw galluogi trafnidiaeth gyhoeddus sy’n symlach, yn fwy fforddiadwy ac yn fwy deniadol, gan gefnogi gwasanaethau rheilffordd gwell ar draws y rhanbarth. Mae rhaglen Rhwydwaith Gogledd Cymru wedi chwarae rhan sylweddol wrth gyflwyno teithiau talu wrth fynd yn ddigyswllt yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
- Mae gan y peiriannau dilysu ar y platfformau mewn gorsafoedd cyfnewidfeydd (fel Bidston) liwiau gwahanol yn ôl y gweithredwr: mae rhai Trafnidiaeth Cymru yn binc ac mae rhai Merseyrail yn felyn. Dylai teithwyr sicrhau eu bod yn tapio i mewn ac allan ar beiriant dilysu'r gweithredwr cywir (gan nad yw'n bosibl teithio rhwng y rhanbarthau gan ddefnyddio'r system talu wrth fynd ar hyn o bryd).
- Mesurir y gwerth gorau yn erbyn y prisiau cyfatebol agosaf ar gyfer tocynnau nad ydynt yn rhai talu wrth fynd yn unig (Tocyn Unffordd Diwrnod Unrhyw Bryd, Tocyn Dwyffordd Diwrnod Unrhyw Bryd/Saver a Thocyn Tymor 7 Diwrnod).
- Mae capiau prisiau dyddiol ac wythnosol yn caniatáu i gwsmeriaid wneud teithiau diderfyn o fewn cyfnod penodol o amser a pheidio â gorfod talu am deithiau ychwanegol unwaith iddynt gyrraedd y cap.
- Yn y dyfodol, hoffai TrC galluogi tocynnau plentyn Talu wrth Fynd, ond buasai hynny'n ddibynnol ar waith datblygu pellach. Yn y cyfamser, nid yw teithio consesiynol am ddim na chynigion teulu a grŵp yn rhan o'n cynnig Talu wrth Fynd - mae hynny’n cyd-fynd â'r rhan fwyaf o gynlluniau talu wrth fynd eraill yn y DU.