Skip to main content

Recruiting more female train drivers has helped reduce the gender pay gap at TfW

05 Ebr 2024

Mae cyflogi 22 yn fwy o yrwyr trên benywaidd yn ystod 2022/23 wedi helpu i leihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ymhellach yn Trafnidiaeth Cymru (Rheilffordd).

Mae'r bylchau cyflog canolrifol rhwng y rhywiau ar gyfer TrC (Rheilffordd) a TrC yn 16.2% a 14.1% yn y drefn honno, sef gostyngiad o 1.2 pwynt canran (TrC Rheilffordd) a 18.7 pwynt canran (TrC).

Mae recriwtio wedi bod yn allweddol i gydraddoli cyfran y cydweithwyr ar bob lefel cyflog. Mae mwy o fenywod wedi cael eu recriwtio i rolau ar gyflogau uwch.

Ym mis Ebrill 2023 roedd 76 o yrwyr benywaidd (9.3% o'r holl yrwyr), i fyny o 54 (7.4%) ym mis Ebrill 2022. Yn 2023 roedd menywod yn cyfrif am 42.9% o brentisiaid newydd TrC, i fyny o 14.3% y flwyddyn flaenorol.

Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant Trafnidiaeth Cymru: "Rwy'n falch iawn o gael adrodd bod ein bylchau cyflog rhwng y rhywiau wedi lleihau unwaith eto.

"Mae menywod bellach yn cael eu cynrychioli'n well mewn swyddi ar gyflogau uwch ac mae'r ddau sefydliad wedi cynyddu cyfran y menywod sy'n gweithio iddyn nhw.

"Erbyn hyn, mae mwy o fenywod yn cael eu cynrychioli mewn rolau uwch arweinwyr a gyrwyr trenau ac rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y menywod sy'n cael dyrchafiad yn TrC (Rheilffordd).

"Mae'r newid hwn wedi bod yn anodd ei ennill. Rydym wedi gwneud cynnydd trwy fuddsoddi mewn hyfforddiant arweinyddiaeth menywod yn TrC. Rydyn ni’n gweithio gydag undebau llafur i sicrhau bod mwy o fenywod yn dod yn yrwyr trenau a pheirianwyr. Rydyn ni’n canolbwyntio ar wella lles menywod trwy weithdai menopos a chefnogi gofalwyr yn well ac rydym yn adeiladu rhwydweithiau ehangach ar draws y diwydiant trwy fentrau fel Menywod mewn Trafnidiaeth.”

"Mae dod yn un TrC yn gyfle i wella cydraddoldeb rhwng y rhywiau ymhellach fyth ac mae model gweithredu newydd yn ein galluogi i weithio yn agosach fyth ac yn ddoethach nag o'r blaen. Mae lleihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn rhan allweddol o ddod yn wirioneddol un."

Dros y flwyddyn nesaf, bydd TrC yn blaenoriaethu gwella ei ddiwylliant a'r cyfleoedd i fenywod. Mae rhai o'r gwelliannau hyn yn cynnwys:

  • Cyhoeddi dangosyddion perfformiad allweddol i fesur recriwtio menywod.
  • Cynnig mwy o gyfleoedd secondiad i Lywodraeth Cymru, Network Rail a chwmnïau gweithredu trenau eraill.
  • Datblygu ein hymgysylltiad â'r cymunedau y mae TrC yn eu gwasanaethu er mwyn dysgu sut i leihau rhwystrau rhag cyflogaeth a gwella cyfraddau cadw menywod o gefndiroedd na chânt eu cynrychioli’n ddigonol.
  • Lleihau rhagfarn ddiarwybod drwy hyfforddi ein rheolwyr.

I ddarllen adroddiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau TrC ewch i wefan TrC https://trc.cymru/amdanom-ni/tryloywder/cyhoeddiadau/bwlch-cyflog-rhwng-y-rhywiau/2023

Llwytho i Lawr