24 Hyd 2019
13 gorsaf ar hyd "lein y Gororau" rhwng Wrecsam ac Upton fydd yn cael eu gwella nesaf wrth i Drafnidiaeth Cymru barhau â’i gynlluniau i wneud y gorsafoedd yn lleoedd gwell a mwy croesawgar.
Bydd gwaith yn dechrau yn Neston ddiwedd y mis hwn cyn symud ymlaen i’r 12 gorsaf arall sy’n cael eu rheoli gan TrC ar hyd y llwybr.
Mae’r buddsoddiad yn rhan o’r Weledigaeth Gwella Gorsafoedd £194 miliwn ar draws pob un o’r 247 gorsaf.
Gall cwsmeriaid ddisgwyl gweld y canlynol:
- Glanhau’r gorsafoedd yn drylwyr
- Ail-frandio llochesi
- Torri llystyfiant sydd wedi tyfu’n wyllt
- Ail-frandio’r orsaf gyda lliwiau newydd Trafnidiaeth Cymru
- Arwyddion newydd
- Ail-leinio meysydd parcio
Bydd y gwaith yn cymryd tua 40 wythnos i'w gwblhau.
Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Profiad y Cwsmer ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, fod y gwaith yn "gam pwysig arall tuag at gyflwyno gwelliannau i bobl ar draws y rhwydwaith".
Dywedodd: “Mae ein gweledigaeth gwella gorsafoedd wedi'i bwriadu i bawb, a bydd yn gwneud gymaint o wahaniaeth i’r argraff y bydd cwsmeriaid yn ei chael wrth ddefnyddio ein gwasanaethau a theithio i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
"Mae lein y Gororau yn cynnig cyswllt hanfodol rhwng gogledd Cymru a Wirral, ac yn cysylltu cymunedau â gwasanaethau’r prif lwybr sydd mor bwysig i’r economïau hynny.”
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:
“Mae’r rhain yn welliannau sylweddol yn y tymor byr a’r tymor hir, sy’n cyd-fynd â’r cynlluniau am gysylltiadau trafnidiaeth a busnes gwell o amgylch yr orsaf fel rhan o Brosiect Porth Wrecsam.
“Mae’n enghraifft glir o’r gwahaniaeth mae Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud, ac mae’n rhan o gynlluniau cyffrous ac uchelgeisiol ar gyfer y rheilffordd yn yr ardal hon. Rydym wedi bod yn glir ynghylch yr angen am welliannau i’r seilwaith yng Ngogledd Cymru, ac fe fydd y buddsoddiad hwn ar hyd lein y Gororau yn arwain at fanteision sylweddol i deithwyr.”
Yn y tymor hwy, bwriedir buddsoddi mwy yn y gorsafoedd o wahanol ffrydiau cyllido yn y gyllideb gwella gorsafoedd a fydd yn arwain at y canlynol:
- Camerâu Teledu Cylch Cyfyng newydd
- Gwell sgriniau gwybodaeth i gwsmeriaid
- Mwy o leoedd i eistedd ar y platfform
- Ystafelloedd aros wedi’u hailwampio”
Mae’r buddsoddiad wedi'i groesawu’n lleol hefyd.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir y Fflint: ‘’Mae Cyngor Sir y Fflint yn hynod falch â’r ymrwymiad gan Drafnidiaeth Cymru i fuddsoddi yn y 13 gorsaf sydd ar hyd Lein y Gororau o Wrecsam Canolog i Upton.’’
‘’Mae’r gwelliannau hyn yn cyd-fynd â’r buddsoddiad a fwriedir yng Ngorsaf Shotton a Pharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, yn ogystal â chyflwyno’r trenau Dosbarth 230 newydd ar hyd y lein. Bydd hyn yn darparu sylfaen ar gyfer gwasanaeth rheilffordd modern a hygyrch, ac yn cynyddu’r potensial i ddenu mwy o deithwyr o blith trigolion Sir y Fflint a’r ardal gyfagos.‘’
Ac roedd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam dros yr amgylchedd a thrafnidiaeth hefyd yn croesawu’r penderfyniad i fuddsoddi mewn gwella’r gorsafoedd.
Dywedodd: "Mae lleoedd sy’n fwy glân, diogel a chroesawgar yn annog pobl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus. Mae’r rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston yn allweddol o ystyried yr ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth 30 munud yn y dyfodol o fewn y fasnachfraint newydd yn ogystal â chyflwyno trenau newydd ar hyd y llwybr hwn.”
Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg gwasanaethau ar lein y Gororau rhwng Wrecsam Canolog a Bidston yn Wirral. Fodd bynnag, nid Trafnidiaeth Cymru sy’n rheoli gorsaf Bidston.
Argraff arlunydd yw’r ffotograff i ddangos sut y bydd Gorsaf Pen y Ffordd yn edrych ar ôl gosod yr arwyddion newydd.
Dywedodd: "Mae lleoedd sy’n fwy glân, diogel a chroesawgar yn annog pobl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus. Mae’r rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston yn allweddol o ystyried yr ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth 30 munud yn y dyfodol o fewn y fasnachfraint newydd yn ogystal â chyflwyno trenau newydd ar hyd y llwybr hwn.”
Nodiadau i olygyddion
Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg gwasanaethau ar lein y Gororau rhwng Wrecsam Canolog a Bidston yn Wirral. Fodd bynnag, nid Trafnidiaeth Cymru sy’n rheoli gorsaf Bidston.
Argraff arlunydd yw’r ffotograff i ddangos sut y bydd Gorsaf Pen y Ffordd yn edrych ar ôl gosod yr arwyddion newydd