08 Hyd 2024
Mae Techniquest wedi trawsnewid ei ardal chwarae rôl mewn i ardal ryngweithiol wych wedi’i ddylunio i blant dan 7, diolch i gefnogaeth hael Trafnidiaeth Cymru (TFW), Siemens Mobility a Balfour Beatty.
Rho het galed felyn ar dy ben, gwisga siaced high-vis bach, a pharatoi i chwarae! Mae’r Parth Chwarae Metro Bach yn le gall dychmygion rhedeg yn rhydd, wrth i blant arlwyo ar gyfer ‘cwsmeriaid’ mewn caffi safle bach, chwarae fod yn arwyddwr rheilffyrdd sy’n cadw’r traciau’n glir, eistedd mewn sedd arweinydd trên, adeiladu waliau gyda briciau, a chwarae gyda modelau trenau bychan.
Wedi’i leoli ar lawr cyntaf Techniquest ym Mae Caerdydd, agorodd y Parth Chwarae Metro Bach heddiw (Dydd Mawrth 8 Hydref 2024) gan Brif Weithredwr Techniquest Sue Wardle; Cyfarwyddwr Isadeiledd Rheilffordd TFW Karl Gilmore DL; Jason Ellis o Siemens Mobility; ac Alasdair MacDonald o Balfour Beatty.
Dywedodd Sue Wardle: “Rydym ni mor ddiolchgar i gael y cyfle i weithio gyda phartneriaid arbennig i greu ardal newydd ar gyfer ein hymwelwyr mwyaf ifanc. Fel elusen, mae cydweithio gyda chefnogwyr fel Trafnidiaeth Cymru, Siemens Mobility a Balfour Beatty yn hanfodol i’n llwyddiant ac nid bydd y trawsnewidiad yn bosibl heb eu rhodd a’u cyngor technolegol, yn gweithio ochr yn ochr gyda’n tîm talentog.
“Mae’n bleser i weld sut mae teuluoedd yn ymgymryd â’r ardaloedd gwahanol o’r Parth Chwarae Metro Bach — o wisgo’r het galed a’r siacedi high-vis i eistedd mewn sedd arweinydd trên! Rydw i wrth fy modd bod yr ardal nawr wedi’i agor yn swyddogol, mewn digon o amser i groesawu ymwelwyr yn ystod gwyliau ysgol mis Hydref.”
Dechreuodd y prosiect pan sylweddolodd aelod o Fwrdd Techniquest — a oedd yn gweithio i Drafnidiaeth Cymru — y synergedd a oedd yn bodoli ar gyfer y ddau sefydliad o ran ymgysylltu â phlant o oedran ifanc: yn hybu nhw i gyrraedd eu potensial llawn ac i ddarganfod rhai o’r cyfleoedd sy’n bodoli yn y byd gwaith iddyn nhw.
Dywedodd Cyfarwyddwr Isadeiledd Rheilffordd TrC Karl Gilmore: “Rydym ni’n benderfynol i fod un o’r cyflogwyr mwyaf cynhwysol yng Nghymru, ac yn ymroddedig i dorri lawr unrhyw rhwystron yn y diwydiant rheilffyrdd fel gall pawb sy’n dyheu am rôl fel arweinydd trên neu beiriannydd derbyn y cyfle i gyrraedd ei amcan.
“Mae cyflwyno’r cyfleoedd yma trwy chwarae a hwyl o oedran ifanc yn ffordd wych i gynhyrchu cyffro yn y genhedlaeth nesaf am STEM, y diwydiant adeiladu a’r manteision cludiant cyhoeddus.”
Mae Techniquest ar agor o 9am i 6pm, saith diwrnod o’r wythnos trwy wyliau ysgol mis Hydref, ac mae tocynnau cyffredinol ar gael ar y wefan: techniquest.org.
Nodiadau i olygyddion
Am unrhyw ymholiadau wasg, cysylltwch â: press@techniquest.org
Techniquest
Techniquest yw canolfan darganfod gwyddoniaeth mwyaf Cymru wedi’i leoli yng nghalon Bae Caerdydd. Mae’n darparu profiadau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) am bob oedran a gallu, a llwyfan i addysgu, diddanu a sicrhau bod gwyddoniaeth ar gael i bawb ar draws Cymru.
Trafnidiaeth Cymru
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig gweledigaeth Llywodraeth Cymru o rwydwaith cludiant sy’n ddiogel, fforddiadwy, hygyrch ac o ansawdd uchel gall Cymru teimlo’n falch am.
Siemens Mobility
Mae Siemens Mobility yn gwmni sydd ar wahân i Siemens AG. Fel arweinwyr mewn datrysiadau cludiant deallus am fwy na 175 mlynedd, mae Siemens Mobility wastad yn adnewyddu ei bortffolio. Mae ei brif feysydd yn cynnwys cerbydau, awtomeiddio’r rheilffyrdd a thrydaniad, portffolio meddalwedd cynhwysol, systemau gosodedig yn ogystal â gwasanaethau cysylltiedig. Gydag adnoddau a datrysiadau digidol, mae Siemens Mobility yn galluogi gweithredwyr symudoldeb ar draws y byd i greu isadeiledd deallus, cynyddu gwerth mewn ffordd gynaliadwy dros y cylchred bywyd, gwella profiad ei deithwyr a gwaranti argaeledd. Yn y flwyddyn gyllidol 2023, a wnaeth gorffen ar 30 Medi, 2023, wnaeth Siemens Mobility cyhoeddi cyllid o €10.5 biliwn a chyflogodd tua 39,800 o bobl ar draws y byd. Darganfyddwch ragor o wybodaeth: www.siemens.com/mobility
Balfour Beatty
Am ragor o wybodaeth: https://www.balfourbeatty.com/