13 Gor 2026
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi Ymgyrch Operation Lion, menter ar y cyd sydd â'r nod o fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Ninbych-y-pysgod ac ar draws ardal ehangach Sir Benfro yn ystod tymor prysur yr haf.
Lansiwyd Operation Lion gyntaf yn 2015, ac mae'n bartneriaeth flynyddol rhwng Trafnidiaeth Cymru, Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu Trafnidiaeth Prydain (BTP). Mae'r fenter yn mynd i'r afael â'r cynnydd sylweddol mewn ymwelwyr â'r rhanbarth ac mae'n anelu at greu amgylchedd diogel, croesawgar a phleserus i drigolion ac ymwelwyr.
Bydd y gweithrediad yn rhedeg trwy gydol cyfnod gwyliau'r haf ysgol chwe wythnos, gyda sylw pwrpasol bob dydd Gwener i ddydd Sul. Bydd swyddogion BTP yn patrolio'r ardal drwy gydol yr ymgyrch, gan weithio'n agos gyda Heddlu Dyfed-Powys.
Bydd timau diogelwch Trafnidiaeth Cymru hefyd yn patrolio trenau rhwng Dinbych-y-pysgod a Doc Penfro ac yn darparu tîm ar y gwasanaeth olaf i Gaerfyrddin.
Prif amcanion yr ymgyrch yw:
- Lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol ac achosion o anhrefn cyhoeddus, fandaliaeth, a mathau eraill o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Gwella diogelwch y cyhoedd gyda phresenoldeb heddlu gweladwy i atal gweithgareddau troseddol.
- Cynyddu ymgysylltiad cymunedol.
Ers ei gyflwyno, mae Operation Lion wedi chwarae rhan sylweddol wrth leihau digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod cyfnod yr haf. Mae'r cyfuniad o bresenoldeb plismona gweladwy ac ymatebion cyflym i ddigwyddiadau wedi helpu i greu amgylchedd mwy diogel i drigolion ac ymwelwyr, tra'n ennill adborth cadarnhaol gan gymunedau a busnesau lleol yn Ninbych-y-pysgod.
Dywedodd Rheolwr Diogelwch Trafnidiaeth Cymru, Simon Turton:"Rydym yn falch o gefnogi Operation Lion unwaith eto ochr yn ochr â'n cydweithwyr o Heddlu Trafnidiaeth Prydain a Heddlu Dyfed-Powys.
"Mae'r fenter hon yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth. Trwy ddull rhagweithiol, sy'n canolbwyntio ar y gymuned, rydym wedi helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Ninbych-y-pysgod ac ar draws Sir Benfro dros y blynyddoedd, ac rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw eto yr haf hwn.
"Mae ein nod yn syml: sicrhau bod trigolion ac ymwelwyr yn gallu mwynhau popeth sydd gan yr ardaloedd gwych hyn i'w gynnig mewn amgylchedd diogel a chroesawgar."