15 Hyd 2024
Mae’r hyfforddiant a dderbynnir gan yrwyr er mwyn eu paratoi ar gyfer gyrru trenau tri-modd newydd sbon Trafnidiaeth Cymru yn mynd rhagddo'n gyflym cyn cyflwyno’r trenau yn ddiweddarach eleni.
Mae'r trenau Dosbarth 756, a adeiladwyd gan Stadler, bellach yn cael eu gweld yn rheolaidd ar y rhwydwaith yn Ne Cymru wrth i yrwyr gwblhau eu hyfforddiant terfynol cyn i’r trenau gael eu cyflwyno i wasanaethu teithwyr dros y misoedd nesaf.
Gall y trenau newydd redeg ar Offer Llinellau uwchben (OLE) neu bŵer batri, neu fel hybrid diesel / batri.
Dywedodd Steve Paramore, Rheolwr Integreiddio Gyrwyr TrC: "Rydym wedi bod yn cyflwyno ein rhaglen hyfforddi gyrwyr i'n gyrwyr cymwys. Mae'r cwrs yn cynnwys rhywfaint o waith theori mewn ystafell ddosbarth yn ogystal â chyflwyniad i systemau rheoli’r trenau Dosbarth 756 gan ddefnyddio’r efelychydd.
"Wedyn maen nhw'n cael tro yn gyrru’r cerbyd, yn ymweld â'r depo ac yn gyrru'r trên fel y byddent yn ei wneud pe baent yn gwasanaethu teithwyr. Mae'n rhoi profiad iddynt o'r Offer Llinellau Uwchben (OLE) ac o yrru’r trên gan ddefnyddio’r modd batri.
"Mae'r gyrwyr wedi mwynhau gyrru’r trenau newydd yn fawr iawn ac mae gennym amserlen brysur o'n blaenau er mwyn sicrhau bod nifer dda o yrwyr yn barod, fel bod modd cyflwyno'r trenau hyn dros y misoedd nesaf."
I ddechrau, bydd y trenau Dosbarth 756 yn cael eu cyflwyno ar y lein gylchol rhwng Merthyr ac Aberdâr, ac yna ar lein Treherbert yn fuan wedyn.
Ychwanegodd Matt Franklin, sydd wedi bod yn yrrwr trên gyda TrC am saith mlynedd: "Maen nhw'n wych, maen nhw’n dawel iawn, mae'r seddi’n gyfforddus ac maent yn welliant mawr o’u cymharu â’r trenau hŷn.
"Mae'n newid pethau’n llwyr i ni a bydd yn wych i'n teithwyr."
Nodiadau i olygyddion
Bydd manylion ynglŷn â’r digwyddiad lansio ac ynglŷn â’r ymweliad i’r cyfryngau er mwyn nodi cyflwyniad y trenau Dosbarth 756 yn cael eu cyhoeddi fis nesaf.
Mae'r gwaith o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd ar gyfer y Metro wedi cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a bydd yn galluogi gwasanaethau cyflymach, amlach rhwng Caerdydd a blaenau'r cymoedd.