Skip to main content

Work continues on Transport for Wales’ Green Routes Project

07 Tach 2022

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio’n agos gyda mabwysiadwyr gorsafoedd a gwirfoddolwyr o Croeso Aberdaugleddau fel rhan o’n Prosiect Mabwysiadu Gorsaf a Llwybrau Gwyrdd.

Mae’r gwelliannau yng ngorsaf reilffordd Aberdaugleddau yn cynnwys arddangosiadau blodau sy’n creu amgylchedd i bryfed peillio, gan roi cyfle i natur fod yn rhan o deithiau ein teithwyr.

Mae'r gwaith ar gyfer amgylchedd yr orsaf yn annog bioamrywiaeth yn yr ardal leol.  Mae'r gwelliannau'n cynnwys creu mannau gwyrdd newydd drwy gyflwyno bocsys planhigion a gosod planhigion yn lle'r llwyni presennol i wella bioamrywiaeth a phlanhigion synhwyraidd er mwyn cynyddu lles teithwyr.

Dywedodd Hugh Evans, Pennaeth Rheilffyrdd Cymunedol: “Mae gweithio yn y gymuned gyda grwpiau fel Croeso Aberdaugleddau yn golygu y gallwn greu cyfleoedd gwirioneddol ar gyfer gwelliannau i’n rhwydwaith, gydag anogaeth gan y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Mae prosiectau fel Llwybrau Gwyrdd yn wych oherwydd eu bod yn cyfrannu mewn amrywiol ffyrdd, o helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a chynyddu bioamrywiaeth i adeiladu perthnasoedd gyda’n cymunedau a’n cymdogion.”

Dywedodd Jayne Hancock o Visit Milford Haven, “Rydym yn falch iawn o weld y potiau blodau newydd yng Ngorsaf Drenau Aberdaugleddau – dyma ffordd wych o gyfarch ein hymwelwyr.  Mae Visit Aberdaugleddau yn grŵp gwirfoddol, sy’n ymroddedig i gydweithio i wella’r apêl a’r profiad a gaiff ymwelwyr yn Aberdaugleddau, ac mae hwn yn sicr yn ychwanegiad i’w groesawu i un o’r prif fannau cyrraedd.

“Rydym bellach yn ymfalchïo yn ein harddangosfa, trwy ddyfrio a chynnal a chadw’r planhigion yn rheolaidd ac edrychwn ymlaen at ddatblygiadau eraill yn yr orsaf drenau yn y dyfodol.”

Cafodd Trafnidiaeth Cymru £100,000 gan gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i wella bioamrywiaeth leol yn ei orsafoedd rheilffordd ac ardaloedd cyfagos. 

Fel rhan o'r prosiect Llwybrau Gwyrdd, rydym yn cyflwyno nodweddion gwyrdd mewn 25 o'n gorsafoedd ac mewn pum ardal gymunedol.  Bydd y gwelliannau'n cynnwys gosod potiau blodau a bywyd gwyllt i hybu bioamrywiaeth leol ar draws y rhwydwaith.

Gallwch ddarllen mwy am ein prosiect Llwybrau Gwyrdd, a phrosiectau eraill yn ein cymunedau ar ein gwefan yn https://trc.cymru/amdanom-ni/datblygu-cynaliadwy/prosiectau