26 Hyd 2026
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi llwyddo i gysylltu pedwar campws Coleg Gŵyr trwy ddatblygu dolen rhwydwaith ffeibr tywyll newydd.
Mewn partneriaeth ag ARO Technologies, mae'r rhwydwaith newydd yn cysylltu pedwar o brif safleoedd y Coleg: Gorseinon, Tycoch, Ysgol Fusnes Plas Sgeti a Llwyn-y-Bryn.
O ganlyniad i’r uwchraddiad, darparwyd asgwrn cefn digidol sy'n addas ar gyfer y dyfodol, i 10,000 o fyfyrwyr ac 850 o aelodau staff, gan ddiogelu tua 100 o weinyddion, sy'n cynnal popeth o gofnodion myfyrwyr i safleoedd dysgu digidol.
Drwy ddewis datrysiad ffeibr tywyll a ddarperir gan ffeibr yn hytrach nag opsiynau drud ar gyfer trosglwyddo data i'r cwmwl, cafodd y Coleg reolaeth lwyr dros ei rwydwaith ynghyd â gwydnwch hanfodol sydd wedi'i ymgorffori ynddo. Mae'r llwybr aml-rwydwaith yn helpu'r coleg i gynnal cysylltedd hyd yn oed os bydd nam yn codi.
Dywedodd Guy Reiffer, Rheolwr Gyfarwyddwr ffeibr: "Roedd angen gwydnwch gwarantedig ar Goleg Gŵyr Abertawe, felly dangoson ni'r llwybrau iddyn nhw.
"Mae ffeibr tywyll yn rhoi rheolaeth lawn i sefydliadau dros eu capasiti a'u dyfodol ac mae'n fodel rydym am ei gyflwyno i ragor o golegau, prifysgolion, cyrff cyhoeddus a busnesau yng Nghymru.
"I'r rhai nad oes angen eu ffeibr eu hunain arnynt, mae ein gwasanaethau gigabit yn cynnig cysylltedd cyflym a dibynadwy, wedi'u cefnogi gan yr un safonau peirianneg."
Dywedodd Kelly Fountain, Prif Swyddog Gweithredol Coleg Gŵyr Abertawe: "Yn gyntaf, roedd yn rhaid i'r ateb fod yn gywir o safbwynt technegol a masnachol. Ond fel coleg Cymreig a ariennir gan y cyhoedd, rydym hefyd yn ystyried yn ofalus y gwerth ehangach y mae ein gwariant yn ei greu.
Dywedodd Simon Palmer, Cyfarwyddwr TG ac Arloesedd Digidol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe:
"Roedd gwir angen i ni feithrin gwydnwch ym mhob rhan o'n gwasanaeth. Mae hynny'n hollbwysig i bopeth. Roedd ffeibr yn dryloyw iawn, gan ddangos mapiau o'u rhwydwaith a'r ffordd yr oeddent yn ei ddarparu. Rhoddodd hynny hyder llwyr i mi eu bod yn deall yr hyn oedd ei angen arnom ac y gallent ddarparu'n union hynny."
Ychwanegodd: "Byddwn yn argymell ffeibr yn gryf iawn. Roeddent yn hawdd iawn gweithio gyda nhw, yn gydweithredol ac wedi cyflawni'r gwaith yn effeithlon, yn brydlon ac o fewn y gyllideb."
I gael gwybod sut y gall ffeibr gefnogi eich sefydliad: ewch i ffeibr.cymru neu anfonwch e-bost: enquiries@ffeibr.wales.