Skip to main content

Over 75,000 passengers travel with confidence with Transport for Wales Passenger Assist service.

04 Maw 2026

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi helpu 75,339 o deithwyr i deithio'n hyderus yn 2024/25, pobl na fyddant fel arall wedi teithio o gwbl heb gefnogaeth y gwasanaeth Cymorth i Deithwyr.

Mae'r ffigur yn cynrychioli cynnydd o 23% ar y flwyddyn flaenorol a dyma'r nifer uchaf o geisiadau am gymorth a gofnodwyd ar rwydwaith Cymru a'r Gororau, gan adlewyrchu ymrwymiad TrC i wneud y rheilffyrdd yn hygyrch i bawb.

Dywedodd Jo Foxall, Cyfarwyddwr Profiad Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru: “Rydym am helpu i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn hawdd ei defnyddio ac yn hygyrch i bawb ac mae ein gwasanaeth cymorth i deithwyr yn un ffordd o wneud hynny.

“Rydym am i bobl deimlo'n hyderus i deithio a dengys y ffigurau hyn bod mwy a mwy o bobl yn cael mynediad at y cymorth sydd ar gael.

“Mae ein Cynghorwyr Gwasanaethau Cwsmeriaid yn defnyddio dull hyblyg o gefnogi cwsmeriaid, sydd wedi arwain at adborth gwych ar y cymorth â gaiff cwsmeriaid.”

Mae'r gwasanaeth Cymorth i Deithwyr ar gael i'r holl gwsmeriaid sydd angen cymorth ychwanegol i gyflawni eu taith yn ddiogel ac yn ddi-drafferth. Mae staff wedi'u hyfforddi i gynorthwyo teithwyr ag anableddau gweladwy ac anweladwy, gan helpu gyda chynllunio teithiau, prynu tocynnau, ac i fynd ar y trenau ac oddi arnynt. Gallant hefyd gynorthwyo gyda bagiau ar gyfer cwsmeriaid sydd ag anawsterau symudedd neu sydd â nam ar eu golwg, yn unol â chanllawiau National Rail.

Gall teithwyr drefnu cymorth hyd at ddwy awr cyn bod y tren yn gadael, ar unrhyw adeg o'r dydd. I'r rhai nad ydynt yn gallu archebu ymlaen llaw, bydd timau gorsafoedd a'r staff ar y tren bob amser yn gwneud eu gorau i ddarparu'r cymorth sydd ei angen.

Mae TrC hefyd wedi parhau i fuddsoddi mewn Mannau Newid newydd ac yn ddiweddar maent wedi paratoi y cyfleusterau hyn mewn gorsafoedd allweddol o amgylch y rhwydwaith yn Amwythig, Bangor, Caer a Chaerfyrddin.

Yn ogystal â Chymorth i Deithwyr, mae TrC yn cefnogi ystod o fentrau hygyrchedd gan gynnwys y Cynllun Waled Oren ar gyfer teithwyr sy'n ei chael hi'n anodd cyfathrebu ar drafnidiaeth gyhoeddus, y Cynllun Sunflower ac ap BSL i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch.

Mae TrC hefyd yn datblygu pecynnau synhwyraidd ac yn ehangu ei raglen hyfforddi staff i wella hygyrchedd ymhellach ar draws y rhwydwaith.

Nodiadau i olygyddion


Mae Cymorth i Deithwyr yn system genedlaethol a gefnogir gan bob cwmni gweithredu trenau, sy'n helpu gweithredwyr i drefnu cymorth i deithwyr ar gyfer cwsmeriaid anabl neu gwsmeriaid sydd â symudedd cyfyngedig.

Gwybodaeth fel yr adroddwyd gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd https://dataportal.orr.gov.uk/statistics/passenger-experience/passenger-assistance/ 

Dyddiad  

Cynorthwyo Teithwyr  

Ebrill 2024 i Fawrth 2025

75,339  

Ebrill 2023 i Fawrth 2024  

61,230  

Ebrill 2022 i Fawrth 2023  

50,933  

Ebrill 2021 i Fawrth 2022  

33,232  

Ebrill 2020 i Fawrth 2021  

6,215  

Ebrill 2019 i Fawrth 2020  

55,580  

Ebrill 2018 i Fawrth 2019  

60,443  

Ebrill 2017 i Fawrth 2018  

60,084  

Ebrill 2016 i Fawrth 2017  

56,849  

Ebrill 2015 i Fawrth 2016  

55,696  

Ebrill 2014 i Fawrth 2015  

50,913  

Ebrill 2013 i Fawrth 2014  

47,601  

Ebrill 2012 i Fawrth 2013  

46,285  

(Ffigurau ar gyfer Rhwydwaith Cymru a'r Gororau gan ORR)

Mae sawl ffordd o gael Cymorth i Deithwyr:

  • Ar-lein wrth archebu tocyn: dewiswch yr help sydd ei angen arnoch o'n hystod o opsiynau
  • Ar-lein gan ddefnyddio ein ffurflen cymorth
  • Dros y ffôn: ffoniwch ein tîm Cymorth Teithwyr ar 03330 050 501 (24 awr y dydd, bob dydd, ac eithrio 25 a 26 Rhagfyr)
  • Defnyddio'r system cymorth i deithwyr a'r system cwsmeriaid symudol. Noder, nid yw'r system hon ar gael yn Gymraeg.

Os nad ydych wedi trefnu cymorth wrth deithio, byddwn bob amser yn gwneud ein gorau i'ch helpu, ond gall gymryd ychydig mwy o amser i drefnu'r help sydd ei angen arnoch.

Manylion National Rail

  • Ffôn: 03457 48 49 50 neu 0800 0223720 (Ar agor 24 awr bob dydd ac eithrio Dydd Nadolig) · Ar-lein - Gwefan: https://www.nationalrail.co.uk/ 
  • Neges Destun Uniongyrchol: 0345 60 50 600: (ar gyfer pobl sy'n drwm eu clyw neu'n fyddar)

Hyder i Deithio

Mae tîm Rheilffyrdd Cymunedol TrC yn ymweld â grwpiau lleol i siarad am y cymorth sydd ar gael yn ein gorsafoedd ac ar ein trenau, sut i brynu tocyn a threfnu cymorth, y cyfleusterau sydd ar gael yn ein gorsafoedd ac ar ein trenau, a pha ostyngiadau sydd ar gael.

Gallant hefyd drefnu teithiau ymgyfarwyddo fel y gallwch roi cynnig ar deithio ar y trên.

I drefnu taith ymgyfarwyddo, ffoniwch taith y tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid TrC - 03333 211 202 (08:00 - 20:00 dydd Llun i ddydd Sadwrn a 11:00 - 20:00 dydd Sul ac eithrio 25 a 26 Rhagfyr) neu e-bostiwch community@tfw.wales.

Llwytho i Lawr