Skip to main content

Over 150,000 journeys have been made using the new Pay As You Go rail ticketing in Wales.

17 Chw 2025

Mae dros 150,000 o deithiau wedi'u gwneud gan ddefnyddio’r system docynnau Talu Wrth Fynd newydd yn Ne Cymru, dri mis ers ei lansio – sy’n golygu, o bob dull tocynnau Trafnidiaeth Cymru (TrC), dyma’r un sydd wedi tyfu gyflymaf.

TrC oedd y cwmni trenau cyntaf y tu allan i Lundain a De-ddwyrain Lloegr i gyflwyno'r system dalu hon y llynedd.

Ym mis Tachwedd 2024, roedd y dechnoleg tapio i mewn a thapio allan ar gael mewn 95 o orsafoedd rheilffordd ledled De Cymru gyda phrisiau yn dechrau ar ddim ond £2.60.

Mae'r dechnoleg newydd yn darparu capiau dyddiol ac wythnosol awtomatig i gwsmeriaid, sy'n cynnig arbedion sylweddol o’u cymharu â thocynnau unffordd unrhyw bryd safonol a thocynnau tymor 7 diwrnod.

Mae technoleg debyg, sy'n cynnig system docynnau Tap Ymlaen a Thap Ymadael hefyd yn cael ei defnyddio ar wasanaethau bws yng Ngogledd Cymru ac mae ffigurau diweddar yn dangos bod dros 40% o'r trafodion bellach yn cael eu gwneud trwy'r dull talu newydd hwn.

Dair blynedd yn ôl, lansiodd Trafnidiaeth Cymru un tocyn integredig, a allai gael ei ddefnyddio ar wasanaethau bws a thrên, gan alluogi teithiau cyflymach a rhatach rhwng De Cymru ac Aberystwyth.

Mae ffigyrau diweddar yn datgelu bod tua 7000 o bobl wedi defnyddio'r tocyn integredig hwn rhwng Ebrill a Rhagfyr y llynedd, ar gyfer teithiau rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth.

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

"Dw i wrth fy modd bod mwy a mwy o deithwyr yn dewis Talu wrth Fynd, gan fanteisio ar ffordd symlach a thecach o dalu am eu tocynnau trên a bws.

Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol Trafnidiaeth Cymru:

"Rydym am roi’r opsiwn cyflymaf a rhataf i gwsmeriaid allu talu am eu tocynnau ac mae system tapio i mewn a thapio allan yn caniatáu i ni wneud hyn."

"Rydym yn falch o fod yn un o'r cwmnïau trên cyntaf y tu allan i Lundain i fod yn defnyddio'r dechnoleg hon mewn 95 o'n gorsafoedd ledled De Cymru. Roedd hwn yn un o'n haddewidion mawr fel rhan o Metro De Cymru. Mae’r addewid hwn bellach wedi'i gyflawni ac o bob un o’n cynhyrchion ni, dyma’r un sydd wedi gwerthu gyflymaf."

"Rydym yn defnyddio technoleg debyg ar gyfer gwasanaethau bws yng Ngogledd Cymru ac mae ein model tocynnau integredig, sy’n cyfuno gwasanaethau bws a thrên gydag un tocyn, yn parhau i fod yn llwyddiannus.

"Mae'r rhain i gyd yn gamau sylfaenol wrth i ni symud tuag at ddatblygu ein gweledigaeth o rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sy'n cynnig 'un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn'."