Skip to main content

Transport for Wales Graduate Scheme now open

23 Rhag 2025

Mae gan Trafnidiaeth Cymru 11 cyfle i raddedigion fod yn rhan o’u taith i drawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru.

Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer Cynllun Graddedigion Arweinwyr y Dyfodol 2026, sy'n cynnig cyfle i raddedigion lunio dyfodol trafnidiaeth Cymru wrth adeiladu gyrfa werth chweil ar draws bysiau a rheilffyrdd.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â rhaglen ddwy flynedd i raddedigion, a byddant yn cylchdroi rhwng gwahanol dimau sy'n gweithio yn eu maes dewisol er mwyn ennill profiad ymarferol ar brosiectau sy'n ail-lunio rhwydwaith trafnidiaeth Cymru.

Mae'r cynllun yn cynnwys mentora strwythuredig, mynediad at weithdai datblygu a chymorth ariannol ar gyfer eu cymwysterau proffesiynol, gan roi'r sgiliau a'r arbenigedd i raddedigion ddod yn arweinwyr trafnidiaeth y dyfodol.

Mae gan TrC 11 cyfle ar gael ar draws 8 maes:

• Rheoli Prosiectau Bws

• Cynllunio’r Rhwydwaith Bysiau

• Gweithrediadau Cwsmeriaid x 2

• Masnachol x 2

• Gwasanaethau TG a Digidol

• Gweithrediadau

• Peirianneg Diogelwch Systemau

• Cynllunio Trafnidiaeth x 2

Dywedodd Jade McIntosh, Rheolwr Talent Gynnar yn Trafnidiaeth Cymru: "Mae ein cynllun i raddedigion yn gyfle gwych i bobl ifanc gael eu troed yn y drws a dechrau datblygu gyrfa werth chweil.

“Rydym wedi cael llwyddiant ysgubol yn y blynyddoedd blaenorol wrth ddenu ymgeiswyr eithriadol, ac mae llawer ohonynt wedi symud ymlaen i rolau parhaol ac wedi dod yn gyfranwyr allweddol i brosiectau mawr.

"Mae hyn yn fwy na swydd yn unig – mae'n gyfle i gael effaith wirioneddol ar ein sefydliad a phobl Cymru, wrth ddatblygu'r sgiliau a'r profiad i ddod yn arweinwyr y diwydiant yn y dyfodol."

Mae ceisiadau'n cau am hanner nos ar 18 Ionawr 2026.

Anogir ceisiadau cynnar gan fod y cynllun fel arfer yn denu diddordeb mawr a gall gau cyn y dyddiad cau.

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i: https://trc.cymru/gwybodaeth/ceiswyr-swyddi/cynllun-i-raddedigion/ein-rolau-graddedigion 

Nodiadau i olygyddion


I fod yn gymwys, rhaid i ymgeiswyr fod wedi graddio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf neu byddant wedi graddio erbyn mis Medi 2026 pan fydd y cynllun yn dechrau. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd yn y maes pwnc perthnasol fel yr amlinellir yn y disgrifiad swydd a bodloni'r holl ofynion hanfodol eraill.

Llwytho i Lawr