Skip to main content

It's down to all of us to keep the railway safe

14 Tach 2019

Mae mwy o bobl nag erioed yn defnyddio’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru a Lloegr, felly cadw’n ddiogel ar y rheilffordd yw’r brif flaenoriaeth bob amser.

Mae dioddef trosedd ddifrifol neu dreisgar ar rwydwaith rheilffyrdd Cymru yn rhywbeth prin iawn, a Chymru sydd â'r cyfraddau troseddu isaf ar y rheilffyrdd ledled y DU.

Fodd bynnag, wrth i nifer y cwsmeriaid gynyddu, rydyn ni’n cymryd camau i gadw at ein hymrwymiad i atal achosion o ddwyn, ymosod, ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac yn atgoffa pobl i fod yn wyliadwrus o fagiau, eitemau neu ymddygiad amheus.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a Network Rail i gadw pawb yn ddiogel ac i leihau lefelau troseddu.

Ond mae cefnogaeth y cyhoedd yn rhan enfawr o hynny.

Yr wythnos hon, mae TrC, yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a Network Rail wedi bod yn cwrdd â'r cyhoedd mewn diwrnodau diogelwch yng Nghaerdydd ac yng Nghaer, er mwyn codi ymwybyddiaeth o gadw’n ddiogel ar y rheilffyrdd a rhoi gwybod i bobl beth ddylent ei wneud os byddant yn gweld rhywbeth amheus.

Dywedodd Simon Turton, Pennaeth Diogelwch Trafnidiaeth Cymru: “Rydyn ni’n buddsoddi llawer o arian mewn teledu cylch cyfyng yn ein gorsafoedd ac ar drenau, er mwyn datblygu amgylchedd mwy diogel a gwell seiberddiogelwch.

“Ond mae angen cefnogaeth ein cwsmeriaid a'r cyhoedd arnom ni er mwyn sicrhau bod y rheilffordd hon mor ddiogel â phosib.

“Os ydych chi’n gweld rhywbeth amheus, peidiwch â chymryd yn ganiataol fod rhywun arall wedi’i riportio. Rhowch wybod i staff yn yr orsaf neu anfon neges at yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig; peidiwch â’i anwybyddu. Cadwch eich llygaid a’ch clustiau ar agor, oherwydd mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i sicrhau bod y rheilffordd hon yn ddiogel.

 

Mae Gweledigaeth Gwella Gorsafoedd Trafnidiaeth Cymru, sydd werth £194 miliwn, yn cynnwys buddsoddi’n sylweddol mewn teledu cylch cyfyng (CCTV) ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau.

Mae 26 o orsafoedd TrC wedi cael Achrediad Gorsafoedd Diogel, a bydd 53 arall i ddilyn yn ystod y misoedd nesaf.

Mae Cynllun yr Adran Drafnidiaeth yn feincnod cenedlaethol ar gyfer diogelwch.  Mae’n sefydlu safonau arferion da ac yn achredu gorsafoedd unigol sydd wedi gweithio gyda’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a phartneriaid lleol eraill i wella diogelwch a gwarchodaeth i bawb.

Yn ogystal â hynny, mae Trafnidiaeth Cymru yn buddsoddi mewn camerâu cyrff ar gyfer goruchwylwyr ar drenau fel mesur arall i atal pobl rhag camymddwyn. 

Dywedodd Sarjant Stephen Dawkins o'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig: “Ein blaenoriaeth yw tawelu meddyliau’r cyhoedd a’u cadw’n ddiogel pan fyddant yn teithio ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Mae mwy o deithwyr nag erioed yn defnyddio’r rheilffordd ledled Cymru, felly mae’n bwysig ein bod ni’n cydweithio â Trafnidiaeth Cymru a’n partneriaid eraill yn y diwydiant er mwyn cadw teithwyr yn ddiogel ac atal troseddau. Mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle gwych i ni rannu ein negeseuon diogelwch â’r cyhoedd a’u hatgoffa ein bod ni yma pan mae ein hangen ni arnyn nhw.”

swansea=50

Gallwch gysylltu â'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ar 0800 40 50 40, neu anfon neges heb dynnu sylw atoch chi eich hun at 61016 os byddwch yn gweld rhywbeth amheus neu rywbeth sy’n peri pryder i chi pan fyddwch yn defnyddio’r rhwydwaith rheilffyrdd.