Skip to main content

Business Wales in partnership with Transport for Wales are hosting this fully funded workshop

30 Awst 2019

Ffi gwrthdro taw newydd ar gyfer gwasanaethau adeiladu - beth mae’n ei olygu i’ch busnes chi

Mae rheolau newydd am ffioedd TAW yn dod i rym yn y diwydiant adeiladu ar 1af Hydref 2019. Bydd y briff brecwast yma’n eich helpu chi i ddeall sut gall y Ffi Gwrthdro TAW newydd effeithio ar eich busnes a sut i baratoi ar gyfer yr heriau.

Mewn ymgais i fynd i'r afael â thwyll TAW yn y diwydiant adeiladu, mae CThEM yn cyflwyno Ffi Gwrthdro Domestig a ddaw i rym o 1af Hydref 2019 ymlaen.

Mae’r ffi gwrthdro yn golygu bod rhaid i’r cwsmer sy’n derbyn y gwasanaeth penodol dalu’r TAW i CThEM yn hytrach nag i’r cyflenwr. Gall hyn effeithio ar eich llif arian yn y cyfamser, a dyma pam mae Trafnidiaeth Cymru, fel cyflogwr cyfrifol, eisiau sicrhau bod y gadwyn gyflenwi’n gynaliadwy ac yn barod ar gyfer y cyfleoedd a ddaw i’r farchnad yn ystod y 5 mlynedd nesaf ac ar ôl hynny. Hefyd mae’n awyddus i helpu busnesau i ddeall beth mae hyn yn ei olygu iddynt hwy a sut gallant baratoi ar gyfer y rheolau newydd.

Bydd y briff brecwast sy’n cael ei gyllido’n llawn yn esbonio sut mae'r Ffi Gwrthdro TAW Domestig newydd yn gweithio a sut a ble mae’n berthnasol.   Byddwn yn darparu sefyllfaoedd perthnasol i helpu’r gadwyn gyflenwi i ddeall sut mae hyn yn berthnasol iddynt hwy.

Agenda

  • 08:30 – 09:00   Cofrestru
  • 09:00 – 10:15   Esbonio Ffi Gwrthdro TAW Domestig gyda chwestiynau ac atebion drwy gydol y sesiwn
  • 10:15 – 10:30   Rhwydweithio a Chloi

26 Medi 2019, 08:30 - 10:30, Hwb Busnes Hwb Creu Entrepreneuriaid Natwest, Caerdydd, CF10 1FS

Llwytho i Lawr