Skip to main content

Bow Street marks third anniversary with continued passenger growth

16 Mai 2024

Mae'n dair blynedd ers i'r orsaf newydd sbon gyntaf agor dan Trafnidiaeth Cymru ac ers hynny mae hi wedi mynd o nerth i nerth, â bron i 30,000 o bobl wedi ei defnyddio yn 2023/24.

Cwblhawyd Cyfnewidfa Drafnidiaeth Bow Street yn 2021 o ganlyniad i fwy na degawd o waith ac ymgyrchu gan grwpiau lleol yng Ngheredigion.

Yn ystod 2021/22 gwelodd yr orsaf 12,563 o deithiau ar gyfer teithwyr, a gynyddodd i 23,156 o deithiau y flwyddyn ganlynol, diolch yn rhannol wrth gwrs i’r llacio mewn cyfyngiadau Covid-19.

Ac yn y data diweddaraf, cadarnhawyd bod mwy na 29,000 o bobl wedi defnyddio'r orsaf yn 2023/24, cyfartaledd o 2,300 y mis.

Dywedodd Rheolwr Gorsaf i Trafnidiaeth Cymru, David Crunkhorn, ei bod yn "wych gweld ei llwyddiant parhaus.”

Dywedodd: "Mae cwsmeriaid wedi bod yn gadarnhaol iawn am y peth ac yn sicr mae'n ymddangos ein bod yn gweld llawer o bobl yn ei defnyddio'n arbennig i fynd i mewn i Aberystwyth lle gall parcio yn y dref fod yn gyfyngedig.

"Roeddem yn falch iawn bod yr orsaf newydd gyntaf a agorwyd dan Trafnidiaeth Cymru yma ar lein y Cambrian ac mae'n wych gweld ei llwyddiant parhaus."

Mae'r orsaf yn cynnwys maes parcio am ddim gyda 70 o leoedd parcio wedi'u monitro gan Deledu Cylch Cyfyng yn ogystal â lleoedd i barcio beiciau, a gall cwsmeriaid sy'n eu defnyddio barhau ar eu taith drwy fanteisio ar lwybr bws T-2 sy'n cysylltu Aberystwyth â Bangor, yn ogystal â llwybrau bysiau lleol.

Roedd cynghorydd ward Tirymynach, Paul Hinge, yn rhan fawr o'r ymgyrch ar gyfer yr orsaf a arweiniodd yn y pen draw at benderfyniad Llywodraeth Cymru i gomisiynu astudiaeth i ailagor yr orsaf a sicrhau cyllid gan yr Adran Drafnidiaeth ar gyfer ei hadeiladu.

"Mae pobl yn bendant yn ei defnyddio fwyfwy, nid yn unig o bentref Bow Street ond o gymunedau fel Penrhyncoch, Tal-y-bont a thu hwnt," meddai.

"Rhan fawr o hynny yw'r maes parcio am ddim a bydd yn well gan lawer o bobl deithio oddi yma wrth fynd i Birmingham neu Lundain oherwydd eu bod yn gwybod y gallant adael eu car yn ddiogel.

"I mi roedd yn llafur cariad go iawn oherwydd bod fy nhad-yng-nghyfraith wedi gweithio ar y rheilffordd am tua 50 mlynedd a gofynnodd i mi ymgyrchu dros hyn ychydig cyn iddo farw."

Mae'r gymuned hefyd wedi elwa o welliannau sylweddol i gysylltiadau Teithio Llesol yn Bow Street yn ogystal â rhwng Bow Street a chymuned gyfagos Penrhyncoch trwy gampws Plas Gogerddan Prifysgol Aberystwyth.

Yn ôl Cyngor Sir Ceredigion, cwblhawyd y llwybrau cerdded a beicio ar y cyd newydd hyn yn 2021/22 ac maent bellach yn cael eu defnyddio’n aml iawn.

Mae’r ffigyrau gan Bow Street yn dangos bod 34% o'r holl deithiau sy’n cychwyn yn yr orsaf yn mynd i Aberystwyth, yna 13% i'r Amwythig, 8% i Birmingham New Street neu Birmingham International a 7% i Lundain.

Llwytho i Lawr