Skip to main content

Train times across Wales and the Borders are set to change this Sunday

13 Rhag 2024

Mae teithwyr rheilffordd yn cael eu hannog i wirio eu teithiau’n ofalus wrth i’r newid mwyaf arwyddocaol yn yr amserlen ers degawdau ddigwydd ddydd Sul yma (15 Rhagfyr).

Bydd amseriad bron pob gwasanaeth ar draws Prif Linell De Cymru, Rheilffordd y Gororau rhwng Casnewydd a’r Amwythig, ac ar lwybrau eraill ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn dod â mwy o gysondeb i deithwyr, gyda threnau’n gadael yr un amser wedi’r awr ac o’r un platfformau.

Mae'r newidiadau i'r amserlen wedi cymryd pedair blynedd i'w datblygu a byddant yn gweld cynnydd yn nifer y gwasanaethau ar rai llwybrau a gwasanaethau hwyr gyda'r nos o Abertawe a Chaerdydd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru, Colin Lea: “O ran gwasanaethau’r brif linell, dyma'r newid mwyaf arwyddocaol i’r amserlen mewn cenhedlaeth. 

"Rydyn ni wedi buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd a nawr yw'r amser i wneud y mwyaf ohonynt. 

"Rydym wedi bod yn gweithio tuag at yr amserlen hon ers pedair blynedd bellach a bydd y cysondeb y bydd yn ei ddarparu yn welliant enfawr i lawer o gwsmeriaid. 

"Er bod hyn yn newid mawr, mae gwelliannau mawr hefyd wedi'u cynllunio ar gyfer Llinellau Arfordir Gogledd Cymru a’r Cambrian yn ystod y 18 mis nesaf gyda threnau mwy newydd a gwelliannau o ran capasiti." 

Dywedodd Nick Millington, Cyfarwyddwr Llwybrau Cymru a’r Gororau Network Rail: "Bydd y newid hwn yn yr amserlen yn arwyddocaol gyda theithiau cyflymach, gwasanaethau trên amlach a mwy o seddi ar draws ein rhwydwaith. 

"Mae ein teithwyr yn dibynnu ar wasanaethau i'w cludo i’w cyrchfannau ac mae'r newidiadau hyn i gyd yn rhan o adeiladu rheilffordd well, fwy dibynadwy a chynaliadwy wrth i ni weithio mewn partneriaeth â Trafnidiaeth Cymru i ddarparu'r gorau i Gymru a'r Gororau." 

I weld sut y bydd eich teithiau chi’n newid, ewch i: https://trc.cymru/cynllunio-taith a mewnbynnwch fanylion taith ar gyfer dyddiad ar ôl 15 Rhagfyr. 

Nodiadau i olygyddion


Mae rhai newidiadau allweddol o fewn yr amserlen newydd yn cynnwys: 

Cryn nifer yn fwy o drenau’n galw ym Mhont-y-clun, Llanharan a Phencoed - cynnydd yng nghyfanswm y gwasanaethau dyddiol o 38 y dydd i 59. Cynnydd o 55%. 

  • Cynnydd yng ngwasanaethau’r Swanline yn ystod oriau brig i 1 trên yr awr (Baglan, Llansawel, Sgiwen a Llansamlet). 
  • Dau wasanaeth ychwanegol ar gyfer Aberdaugleddau a gwasanaethau wedi’u gwasgaru’n fwy cyson drwy’r dydd i Borthladd Abergwaun sy'n cael gwared ar y bwlch o chwe awr heb drenau yng nghanol y dydd. 
  • Mae'r trên olaf o Gaerdydd i Faesteg trwy Ben-y-bont bellach yn hwyrach - am 11:24yh. 
  • Trên olaf hwyrach o Abertawe i Gaerdydd a fydd yn gadael am 11:30yh o ddydd Llun i ddydd Gwener. 
  • Ymadawiadau mwy cyson gyda mwy o drenau yn gadael ar yr un pryd wedi’r awr. 
  • Bydd gwasanaethau Maesteg tuag at Gaerdydd nawr yn rhedeg drwodd i Lyn Ebwy, yn hytrach na Cheltenham Spa. 
  • Bydd gwasanaethau Cheltenham Spa yn dechrau ac yn gorffen yng Nghaerdydd Canolog. 
  • Cyflwyno’r newidiadau yn sgil yr Adolygiad Amserlenni Strategol ar lein y Cambrian a lein Calon Cymru. 
  • Cyflwyno trenau Dosbarth 756 newydd sbon ar Linellau Craidd y Cymoedd (gan ddechrau fis Tachwedd) a threnau teithio llesol pwrpasol gyda lleoedd ychwanegol ar gyfer beiciau, ailwampiad llawn a lifrai pwrpasol ar gyfer llinell Calon Cymru. 
  • Rhai newidiadau i'r patrwm galw ar rai gwasanaethau rhwng Caerdydd a Manceinion Piccadilly, i gyflymu rhai trenau a chyflwyno patrwm safonol yn yr amserlen. 
  • Bydd rhai gwasanaethau lleol rhwng Gorllewin Cymru a Chaerdydd nawr yn defnyddio Platfform 0 yng Nghaerdydd Canolog. 
  • Bydd Canghennau Gogledd Cymru yn parhau i weld 100% o’u teithiau yn cael eu gwneud ar fflyd newydd a bydd Prif Linell Gogledd Cymru yn gweld dros 80% o’u teithiau yn rhedeg ar fflyd newydd. At ei gilydd, bydd dros 87% o deithiau ar wasanaethau Gogledd Cymru yn cael eu gwneud ar drenau newydd o'r adeg a gyflwynir amserlen Rhagfyr 2024 ymlaen. 

Ar draws diwydiant rheilffyrdd y DU mae dau newid amserlen fawr bob blwyddyn – ym mis Mai/Mehefin ac ym mis Rhagfyr.

Buddsoddwyd £800 miliwn mewn trenau newydd sbon gydag ychydig dros hanner ohonynt bellach yn gwasanaethu teithwyr.

Rydym wedi llwyddo cyflwyno 56 o drenau Dosbarth 197 newydd sbon ar y brif lein (bydd y trenau hyn yn cael eu cyflwyno ar lein y Cambrian yn 2025/26).

Yn ogystal â hyn, o fis Tachwedd 2024, rydym yn dechrau cyflwyno trenau Dosbarth 756 newydd sbon ar Linellau Craidd y Cymoedd.

Cyflwynir trenau teithio llesol wedi'u hadnewyddu ar lein Calon Cymru yn y cyfnod amserlen hwn, a gall y rhain gludo hyd at 12 beic, a fydd, gobeithio, yn helpu i ddatblygu'r lein ar gyfer teithiau hamdden yn benodol.

Mae TrC yn rhedeg mwy na 1,000 o wasanaethau teithwyr bob dydd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

Roedd y gostyngiad mewn nifer fach o wasanaethau ar lein y Cambrian a lein Calon Cymru yn rhan o Adolygiad Amserlenni Strategol a gynhaliwyd yn gynharach eleni. Mae mwy o fanylion ar gaelYMA.

Diffinnir gwasanaethau prif lein fel yr holl wasanaethau y mae Trafnidiaeth Cymru yn eu rhedeg o gwmpas Caerdydd, ac eithrio Llinellau Craidd y Cymoedd.