Skip to main content

Award success for TfW and Arup

27 Ebr 2023

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) a’i bartneriaid newid sefydliadol a datblygu cynaliadwy, Arup, yn dathlu cydnabyddiaeth y diwydiant yng Ngwobrau Rheilffyrdd Spotlight.

Enillodd TrC ac Arup y wobr Prosiect Eithriadol (o dan £20 miliwn) ar gyfer Rhaglen Newid Rheilffyrdd Cymru (WRCP), a ddaeth â masnachfraint Cymru a’r Gororau dan berchnogaeth gyhoeddus.

Fe wnaeth Arup gynorthwyo TrC drwy raglen gymhleth i symud a throsglwyddo’r gweithredwr trenau o berchnogaeth breifat i berchnogaeth gyhoeddus, gan ategu uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer system drafnidiaeth hygyrch sy’n ategu teithio cynaliadwy ac sydd o fudd i bobl, lleoedd ac economi Cymru.

Dywedodd Anthony McKenna, Pennaeth Rhaglenni Nawdd a Thrafnidiaeth yn TrC: “Rydyn ni’n falch iawn o gael ein cydnabod gyda’r wobr flaenllaw hon yn y diwydiant.

“Roedd y newid sefydliadol sydd ei angen ar gyfer y Rhaglen Newid Rheilffyrdd yn ddarn sylweddol o waith a wnaeth barhau am nifer o fisoedd, ac ni fyddem wedi gallu gwneud hynny heb ymdrech wych gan y tîm.

“Roedden ni’n ffodus o allu elwa ar grŵp bach o ymgynghorwyr, dan arweiniad Arup, a wnaeth ein helpu i gyflawni’r rhaglen yn llwyddiannus.”

Dechreuodd y Rhaglen Newid Rheilffyrdd ym mis Mehefin 2020 yn ystod pandemig COVID-19 a pharhaodd tan ddiwedd 2021.

Dywedodd Andrew Jenkins, Cyfarwyddwr Prosiect Arup: “Roedd ymgysylltu, cydweithio a diwylliant o rannu gwybodaeth rhwng timau Arup a TrC yn hanfodol i lwyddiant y prosiect cymhleth hwn. Rydyn ni’n falch iawn bod y wobr hon yn cydnabod gwerth newid sefydliadol medrus yn y diwydiant rheilffyrdd.”

Llwyddwyd i gyflawni’r prosiect yn brydlon ac yn unol â’r gyllideb, ac roedd yn cynnwys:

  • Mwy na 50 cytundeb cyfreithiol a 300 o gontractau.
  • Trosglwyddo tua 3,000 aelod o staff.
  • 113 o systemau technoleg a gwasanaethau.
  • Pedair trwydded gyda’r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd
  • 18 o brydlesi fflyd sy’n cyfateb i 317 o drenau. ‘

I gael rhagor o wybodaeth am y Gwobrau, ewch i www.spotlightrailawards.com/