28 Chw 2025
Mae Trafnidiaeth Cymru'n falch iawn o gael ein cydnabod yng Ngwobrau Gorsafoedd Taclusaf Sir Gaer, gyda llwyddiant i orsafoedd Yr Heledd-wen a Wrenbury.
Wedi’u cyflwyno gan Craig Harrop, Cyfarwyddwr Rhanbarthol y Gorllewin a’r Canolbarth i Northern Railway, cynhaliwyd y gwobrau yng Nghlwb Pêl-droed Crewe Alexandra ac roeddent yn cydnabod gwaith gwirfoddolwyr a staff mewn gorsafoedd ar draws y rhwydwaith, mewn amrywiaeth o gategorïau.
Cipiwyd y wobr fawr 'Best Kept Station Award 2024' gan orsaf yr Heledd-wen, wrth iddi gael ei chydnabod am ei gardd ogoneddus, gwaith celf yr orsaf ac am estyn croeso cynnes i'r rhai sy'n teithio i'r ardal, yn ogystal â'r bobl leol sy’n dod i ymweld â’r lle.
Mae gorsaf reilffordd yr Heledd-wen wedi derbyn gweddnewidiad bywiog, diolch i gydweithrediad unigryw rhwng TrC, Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol ‘3 Counties Connected’, disgyblion o Ysgol Gynradd Nantwich Academy, yr artist lleol Cathy Williams, a’r gwirfoddolwyr gorsaf reilffordd ymroddedig. Mae'r fenter greadigol hon yn gwahodd teithwyr sy'n teithio trwy’r Heledd-wen i brofi swyn unigryw'r dref trwy arddangos gwaith celf sydd newydd ei osod yn y llochesi aros ar y platfformau.
Enillodd gorsaf Wrenbury’r Wobr Prosiect Celf am ei phrosiect celf a ariannwyd gan y Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol ‘3 Counties Connected’, ar y cyd â'r artist Cathy Williams a disgyblion o Ysgol Gynradd Wrenbury, a fu'n archwilio beth sy'n gwneud Wrenbury yn arbennig iddyn nhw.
Trwy gyfres o ddarluniau llinell a gwaith gyda phapur siwgr lliw, daeth y plant â'u cariad at Wrenbury yn fyw, gan ddal hanfod y pentref yn eu celf.
Mynegodd Josie, Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol i 3 Counties Connected, ei llawenydd dros lwyddiant y prosiectau:
"Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill dwy wobr yng Ngwobrau Gorsafoedd Taclusaf Sir Gaer ar gyfer Prosiectau Celf Wrenbury a’r Heledd-wen.
"Mae gweithio gyda disgyblion o Ysgol Gynradd Nantwich Academy, Ysgol Gynradd Wrenbury, a'r mabwysiadwyr gorsaf ymroddedig wedi bod yn anrhydedd gwirioneddol. Mae'r arddangosfeydd terfynol yn llawn bywyd ac maent wir yn arddangos yr hyn sy'n gwneud y cymunedau hyn yn Sir Gaer mor arbennig."
Mae tîm o feirniaid annibynnol yn ymweld â gorsafoedd yn ystod y flwyddyn, yn bennaf yn y gwanwyn a'r haf. Daw'r rhain o sefydliadau cymunedol sydd wedi cynnwys Clybiau Rotari a Sefydliadau Merched sy'n darparu safbwynt 'nad yw'n gysylltiedig â’r rheilffordd’, ac felly’n adlewyrchu safbwynt rhywun nad yw’n teithio’n aml a’u profiad nhw wrth ymweld â gorsaf.
Dywedodd Mark Barker, Cadeirydd Gorsafoedd Taclusaf Sir Gaer:
"Mae'r noson wobrwyo yn ddathliad i'r holl wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol sy'n gwneud cymaint i fywiogi ein gorsafoedd yn Swydd Gaer.
"Rydym wedi gweld gwaith gwirioneddol wych gan wirfoddolwyr a staff mewn gorsafoedd ar draws Sir Gaer."
Mae'r gwobrau'n gydnabyddiaeth o'r berthynas barhaus y mae Trafnidiaeth Cymru wedi'i datblygu gyda chymunedau ar draws y rhwydwaith, gan gynnwys y cynllun Mabwysiadu Gorsafoedd sy'n ceisio helpu i wella ein cysylltiadau â chymunedau lleol a chwsmeriaid sy'n byw ger gorsafoedd rheilffordd heb staff.
Dywedodd Melanie Lawton, Arweinydd Strategaeth Rheilffyrdd Cymunedol:
"Mae bob amser yn wych gweld cydnabyddiaeth i'n gwirfoddolwyr mabwysiadu gorsafoedd a’n Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol sy'n rhoi o'u hamser i wella ein gorsafoedd a gwneud gwahaniaeth enfawr.
"Yma yn TrC, mae gwaith hanfodol yn cael ei wneud gan unigolion sy'n neilltuo eu hamser a'u hymdrechion yn anhunanol i gefnogi'r gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig. Hoffem longyfarch ein henillwyr a diolch yn fawr iawn i'r holl wirfoddolwyr sy'n helpu i wneud ein gorsafoedd yn byrth croesawgar i'w trefi, tra hefyd yn cysylltu cymunedau â'u rheilffyrdd."