18 Medi 2024
Mae Trafnidiaeth Cymru yn annog pob cwsmer i wirio cyn teithio gan y bydd gwaith i gyflawni Metro De Cymru yn effeithio ar wasanaethau yr hydref hwn.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn symud yn nes at roi Metro De Cymru ar waith. Bydd trenau trydan newydd sbon yn dechrau gwasanaethu ar linellau Merthyr, Aberdâr a Threherbert yn yr Hydref, ac yn ddiweddar rydym wedi cynyddu amlder y trenau rhwng Pontypridd, Caerffili, Rhymni a Chaerdydd yn dilyn newid mawr yn yr amserlen ym mis Mehefin 2024.
Er mwyn darparu mwy o fuddion i'n cwsmeriaid, mae angen i TfC wneud gwaith peirianyddol sylweddol yr hydref hwn a fydd yn arwain at wasanaethau bws yn lle trên yn cael eu paratoi ar rai o reilffyrdd y Cymoedd.
O ddydd Sadwrn 28 Medi i ddydd Sul 6 Hydref, ni fydd unrhyw drenau'n rhedeg o Ferthyr Tudful, Aberdâr na Treherbert i Radyr am naw diwrnod, yn hytrach na 23 diwrnod fel y trafodwyd yn flaenorol.
Drwy gydol y cyfnod cau, bydd ein timau'n gweithio 24 awr y dydd i gwblhau dros 30 darn o waith, sy’n allweddol i alluogi 4 trên yr awr i redeg o ben pob cwm.
Mae’r gwaith arfaethedig yn cynnwys uwchraddio traciau a signalau sylweddol yng ngorsaf Pontypridd, datgymalu grisiau gwreiddiol y bont droed yng ngorsaf Trefforest, grisiau fydd yn cael ei rhoi i reilffordd dreftadaeth a gwneud gwaith glanhau ar hyd y rhwydwaith
During this time, buses will replace trains between Treherbert, Merthyr Tydfil, Aberdare and Radyr,
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd gwasanaethau bws yn lle trên ar yn gwasanaethu rhwng Treherbert, Merthyr Tudful, Aberdâr a Radyr, a bydd gwasanaethau trenau i Gaerdydd yn dechrau ac yn dod i ben yn Radyr
Mae mwy o wybodaeth am gwasanaethau bws yn lle trên i'w weld yma.
Hanner Marathon Caerdydd Dydd Sul 6 Hydref
I’r rhai sy’n teithio i Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul 6 Hydref, bydd TfC yn rhedeg gwasanaethau bws ychwanegol o Ferthyr, Aberdâr a Threherbert, ochr yn ochr â gwasanaeth rheilffordd ben bore ychwanegol o Radur sy’n cyrraedd Caerdydd cyn 9yb.
Bydd gwasanaeth cymorth cwsmeriaid hefyd ar waith ym Mhontypridd a Radur.
Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen digwyddiadau.
Gwaith peirianyddol yng ngorsaf Heol y Frenhines Caerdydd
Mae gwaith perianneg yn cymeryd lle drwy gorsaf Caerdydd Heol y Frenhines o ddydd Sul 27 Hydref i ddydd Sul 3 Tachwedd uwchraddio'r trac a'r signalau fel y gall mwy o drenau redeg drwy'r orsaf.
Gan fod Heol y Frenhines Caerdydd yn gyswllt pwysig ar gyfer gwasanaethau’r Cymoedd, y Ddinas a Bae Caerdydd, bydd sawl rheilffordd yn cael eu heffeithio, heb unrhyw wasanaethau rheilffordd yn rhedeg ar reilffyrdd Coryton, Rhymni a Phenarth. Mae TfC yn cynghori pob teithiwr i wirio cyn teithio gan y bydd gwasanaethau bws yn lle trên ar waith neu bydd gweithredwyr bysiau yn derbyn tocynnau trên.
Bydd y swyddfa docynnau yng ngorsaf Heol y Frenhines Caerdydd yn parhau ar agor drwy gydol y cyfnod cau er mwyn caniatáu i deithwyr brynu tocynnau a dod o hyd i wybodaeth am wasanaethau.
Ceir rhagor o fanylion am y ddwy reilffordd sydd wedi’u cau yma. Sylwch, bydd cau llinellau'n parhau dros y misoedd nesaf, gan gynnwys cau gyda'r nos, ar benwythnosau ac ar ganol wythnos ar linellau Coryton a Rhymni. Gellir gweld rhestr lawn o'r holl reilffyrdd fydd yn cael eu cau sy'n effeithio ar reilffyrdd y Cymoedd yma.
Mae’r gwaith o drawsnewid Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd ar gyfer y Metro wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a bydd yn galluogi gwasanaethau cyflymach, amlach rhwng Caerdydd a Blaenau’r Cymoedd.