27 Medi 2022
Eleni yw 10fed pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru ac mae Trafnidiaeth Cymru yn dathlu’r garreg filltir bwysig hon trwy lansio ymgyrch i ddangos sut gellir defnyddio’r trên i gyrraedd 870 milltir o arfordir.
Mae Llwybr Arfordir Cymru bellach yn adnabyddus ledled y byd, gan gynnig cyfle unigryw i gerddwyr gerdded ar hyd perimedr cyfan Cymru a mwynhau golygfeydd godidog y wlad.
Mae’r ymgyrch ‘o’r cledrau i’r llwybrau’ a lansiwyd gan Trafnidiaeth Cymru yn amlygu sut y gellir cael mynediad hawdd i wahanol rannau o’r llwybr o wahanol orsafoedd rheilffordd ar Rwydwaith Cymru a’r Gororau, pob man o’r Fflint yn y Gogledd i Ddinbych-y-pysgod yn y Gorllewin.
Mae Trafnidiaeth Cymru am ddenu mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a bydd yr ymgyrch hon yn darparu gwybodaeth berthnasol i’r rhai sy’n teithio at ddibenion twristiaeth a hamdden.
Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd sydd â chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth: “Nid yw pobl bob amser yn ymwybodol bod ein rhwydwaith rheilffyrdd yn cynnig mynediad cyfleus i'n harfordir anhygoel. Mae hon yn ymgyrch wych sy’n rhoi gwybodaeth i gerddwyr am y cysylltiadau rheilffordd agosaf at y llwybrau y maent am eu dilyn ar hyd ein llwybr arfordirol, gan gyfuno dwy agwedd allweddol ar ein cynlluniau ar gyfer datblygu trafnidiaeth gynaliadwy – teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus.”
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol TrC: “Mae Llwybr Arfordir Cymru yn un o brif atyniadau ein gwlad, nid yn unig i’r rhai sy’n ymweld â Chymru ond hefyd i’r rhai sy’n byw yng Nghymru. Mae'n cwmpasu ein gwlad gyfan fel y mae ein rhwydwaith rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus. Bydd yr ymgyrch ‘o’r cledrau i’r llwybrau’ yn annog pobl i ddefnyddio ein rhwydwaith rheilffyrdd i gael mynediad at y llwybr gan gynnig opsiwn mwy cynaliadwy na defnyddio’r car.”
“Yn TrC rydym yn gweithio i wella trafnidiaeth gyhoeddus a chreu rhwydwaith mwy cydgysylltiedig sy’n fwy hygyrch fydd yn denu mwy o bobl i’w defnyddio. Bydd hyn yn ein helpu ni i gyd yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.”
Ychwanegodd Sioned Humphreys o Lwybr Arfordir Cymru: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ar yr ymgyrch o’r cledrau i’r llwybrau. Mae llawer o'r gorsafoedd mewn lleoliad cyfleus, yn agos at y llwybr – nid yn unig maent yn caniatáu i gerddwyr gyrraedd man cychwyn y daith ond hefyd i ddychwelyd iddynt heb orfod mynd am yn ôl ar eu taith”.
Caiff yr ymgyrch ei lansio ar 20fed Medi 2022.