29 Chw 2024
Mae Lonely Planet, yr arbenigwr teithio byd-enwog, wedi enwi lein rheilffordd Calon Cymru yn un un o'r teithiau rheilffordd gorau yn Ewrop.
Yn cael ei disgrifio fel ‘sbectrwm o olygfeydd’ sy'n gyfuniad ‘o aberoedd ymyl tywod De Cymru’ i ‘un o ddinasoedd canoloesol harddaf Lloegr', mae'r lein wedi'i rhestru ymhlith y deg taith trên orau yn Ewrop ar gyfer 2024.
Mae eraill ar y rhestr fawreddog yn cynnwys y Le Petit Train Juane ym mynyddoedd y Pyrenees yn Ffrainc, y Berina Express yn y Swistir a Rheilffordd Brenner sy'n teithio trwy'r Almaen, Awstria a'r Eidal.
Yn ymlwybro rhwng Abertawe a'r Amwythig, mae teithio ar hyd y lein gyfan yn cymryd 4 awr ac yn cwmpasu bron i 200km, gan fynd trwy bentrefi fel Llandeilo a Llanymddyfri yn y de a Craven Arms a Church Stretton ymhellach i'r gogledd.
Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant Trafnidiaeth Cymru: “Mae lein Calon Cymru yn rheilffordd wledig hardd sy'n boblogaidd gyda theithwyr a cherddwyr dydd. Mae hefyd yn darparu cysylltiadau hanfodol i gymunedau gwledig yng Nghanolbarth Cymru a'r Gororau.
“Mae'n rhagorol ei bod yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol gan Lonely Planet a byddwn yn annog ymwelwyr i fynd ar daith a mwynhau'r profiad o fynyddoedd dramatig, coedwigoedd, afonydd gwyllt a threfi a phentrefi hynod Swydd Amwythig, Powys, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe.”
“Yn TrC rydym ar daith i wella trafnidiaeth gyhoeddus a hefyd i annog pobl i ddewis teithio cynaliadwy. I'r rheini sydd â diddordeb ac sydd am ymweld, ewch i www.walesonrvails.co.uk i weld y lleoedd a'r atyniadau gwych niferus yng Nghymru a sut i’w cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus.”
Dywedodd Owen Griffkin, Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol Calon Cymru, “Roedd yn wych gweld Lein Calon Cymru yn cael ei chynnwys fel un o'r deg taith reilffordd orau yn Ewrop. Rydym yn falch iawn o'r rheilffordd ac mae ei gweld yn cael ei chydnabod ar lefel byd- eang fel un o'r llwybrau rheilffordd mwyaf golygfaol yn Ewrop yn rhywbeth i'w ddathlu.
“Bydd erthyglau fel hyn yn annog mwy o ymwelwyr i ymweld â’r ardal ac yn creu buddion economaidd i gymunedau ar hyd y lein hefyd. Byddwn yn ceisio manteisio ar hyn yn ein cynllun gweithgaredd Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol nesaf.”