Skip to main content

Cheaper ‘Pay As You Go’ rail fares for South East Wales

07 Chw 2024

Gall gwsmeriaid bellach fanteisio ar docynnau trên ‘Talu wrth fynd’ rhatach diolch i wasanaeth talu newydd sy’n galluogi iddynt dapio ymlaen a thapio i ffwrdd wrth deithio ar drenau ar lwybrau allweddol ar draws De-Ddwyrain Cymru.

Yn ei wneud yn gyflymach, yn haws ac yn rhatach i deithio, mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi lansio’r cynllun peilot ar deithiau rhwng Caerdydd Canolog, Casnewydd a Phont-y-clun.

De Cymru yw’r lleoliad cyntaf yn y DU y tu allan i Lundain lle gall teithwyr ar rwydwaith rheilffyrdd ddefnyddio’r dechnoleg troi i fyny a mynd hon.

Bydd y cynllun ‘Talu Wrth Fynd’ yn ehangu ar draws De Cymru drwy gydol 2024, gan gwmpasu cyfanswm o 95 o orsafoedd, gyda llinell Glynebwy yn cael ei chynllunio ar gyfer y cam nesaf.

Mae'n caniatáu i gwsmeriaid deithio heb brynu tocyn papur neu ddigidol - gallant dapio eu cerdyn debyd/credyd neu ddyfais glyfar (ffôn neu oriawr) ar y rhwystrau tocynnau Talu Wrth Fynd newydd neu ddilyswyr platfform melyn ar ddechrau ac ar ddiwedd eu taith.

Ar y cyfan, mae tocynnau Talu wrth fynd yn rhatach na thocynnau cyfredol a byddant yn cael eu capio ar lefel ddyddiol ac wythnosol er mwyn rhoi’r pris gorau i gwsmeriaid.

Er enghraifft, cost tocyn unffordd rhwng Caerdydd a Chasnewydd yw £2.50 a chost tocyn dydd yw £6.80 a £20.40 am docyn wythnos.

Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Marchnata Trafnidiaeth Cymru,: “Yn dilyn treial llwyddiannus y flwyddyn ddiwethaf, mae’n braf gallu lansio’n gwasanaeth Talu wrth fynd newydd ar y llwybrau cyntaf yn ne-ddwyrain Cymru.

“Dyma gam cyntaf y broses o ddarparu’r cynllun Talu wrth fynd ac rydym yn bwriadu lansio’r system ar nifer fwy o lwybrau cyn diwedd y flwyddyn.

“Caiff technoleg debyg eisoes ei defnyddio mewn dinasoedd mawr fel Llundain a Manceinion ac mae wedi’i dylunio i hwyluso’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a’i gwneud hi’n rhatach i deithio arni.

Mae’r system Talu wrth fynd yn dod â manteision pellach i gwsmeriaid. Bydd dangosfwrdd ar gael er mwyn i bobl allu ychwanegu ‘tapiau’ ar goll yn ogystal â gallu gwneud ystod o bethau eraill – i gyd ar gael drwy ap Trafnidiaeth Cymru.

Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau o dydd Sul 3 Mawrth y bydd prisiau tocynnau trên yng Nghymru yn codi islaw chwyddiant, 4.9%, yn unol â phenderfyniad Llywodraeth y DU.

Nodiadau i olygyddion


Dylai cwsmeriaid sydd am ddefnyddio’r gwasanaeth Talu wrth fynd ddefnyddio’u cerdyn debyd neu gredyd i dalu am eu taith gyflawn gyntaf. Ar ôl hynny, mae’n bosib dewis p’un ai ydynt am barhau i ddefnyddio’u cerdyn banc neu ddefnyddio dyfais glyfar (ffôn neu oriawr) yn lle.

Bydd capio dyddiol ac wythnosol ond yn gweithio os ydych yn defnyddio’r un cerdyn neu ddyfais glyfar. Hynny yw, bydd newid o un ddyfais talu i’r llall yn effeithio ar y cap wythnosol.

Am ragor o wybodaeth ac am atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin ynglŷn â’r gwasanaeth Talu wrth fynd, ewch i Talu wrth fynd | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)

Llwytho i Lawr