Skip to main content

Free Tours by Rail Launched Celebrating Local History, Heritage and Culture

07 Tach 2025

Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol y 3 Sir Gysylltiedig yn gwahodd aelodau’r cyhoedd i ddysgu am eu treftadaeth leol mewn ffordd newydd a chynaliadwy drwy ymuno â “Theithiau ar y Rheilffordd – Camu i’r Stori” sef cyfres o deithiau am ddim o dan arweiniad arbenigwyr, a gynhelir yn ystod yr hydref a’r gaeaf ledled Sir Gaer a Wrecsam.

Ariennir y teithiau gan y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol, Cronfa Datblygu Rheilffyrdd Cymunedol a Trafnidiaeth Cymru, ac maent yn dathlu’r straeon, pobl a’r lleoedd sy’n cysylltu cymunedau ar hyd rhwydwaith y rheilffyrdd.

Mae pob taith yn cael ei harwain gan Dywysydd Taith Bathodyn Gwyrdd, a bydd pawb sy’n cymryd rhan yn teithio ar drên rhwng y cyrchfannau ac yn mwynhau cinio wedi’i baratoi’n lleol ar y daith. Wyth lle yn unig sydd ar bob taith, felly mae pawb sy’n dymuno cymryd rhan yn cael eu hannog i gadw lle yn fuan ar Eventbrite.

Dyma amserlen y daith:

  • Dydd Mawrth, 11 Tachwedd 2025: ‘Straeon Menywod’ - a bydd yn rhoi sylw i fywydau menywod anhygoel sydd wedi gadael eu marc ar Gaer a Wrecsam, o seintiau i aelodau o’r teulu brenhinol, o addysgwyr, meddygon a gwleidyddion.
  • Dydd Mawrth, 18 Tachwedd 2025: taith ‘Y Gororau’ - rhwng Wrecsam a Rhiwabon yn olrhain cloddweithiau hynafol Offa a Wat ac yn darganfod sut mae’r tirweddau hyn wedi siapio bywyd ar hyd y ffin.
  • Dydd Mawrth, 2 Rhagfyr 2025: taith ‘Rheilffordd 200’ - yn dathlu dwy ganrif o reilffyrdd modern, ac yn ystyried cyfraniadau lleol i’r chwyldro ym myd trafnidiaeth a arweiniodd at gysylltu cymunedau ledled y byd.
  • Dydd Mawrth, 9 Rhagfyr 2025: ‘Cysylltiadau’r Ffin’ - yn edrych yn fanwl ar hanes Wrecsam a Chaer, ac yn datgelu sut mae pobl, nwyddau a syniadau wedi croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr ers cenedlaethau.

Dywedodd Josie Rayworth, Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol y 3 Sir Gysylltiedig: “Rydyn ni’n falch iawn o weithio gyda’n partneriaid lleol ar brosiect mor unigryw.

"Mae Teithiau ar y Rheilffordd yn dod â phobl at ei gilydd i ddarganfod y straeon, pobl a’r cysylltiadau anhygoel sy’n gwneud ein rhanbarth mor arbennig, tra’n hybu dulliau teithio mwy cynaliadwy ar yr un pryd.”

Dywedodd Paul Webster, Rheolwr Cymorth Rhanbarthau y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol: “Mae’r profiadau arbennig hyn i ymwelwyr yn cynnig ffordd unigryw ac anffurfiol i fwynhau treftadaeth a harddwch y rhanbarth hwn, ac rydym yn falch iawn o gefnogi’r fenter.

"Bydd dysgu am hanes, diwylliant a bwyd y cyrchfannau lleol yn llawer mwy pleserus wrth deithio ar y trên.”

Dywedodd Melanie Lawton, Swyddog Arweiniol Strategol Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru: "Mae defnyddio’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus i ddarganfod atyniadau a chefnogi economïau lleol yn wych; mae’r 3 Sir Gysylltiedig yn parhau i gynnig prosiectau arloesol i gysylltu cymunedau â’u rheilffyrdd."

Mae pob un o’r Teithiau ar y Rheilffordd am ddim ac yn cynnwys taith ar y trên a chinio. Rhaid cadw lle ymlaen llaw drwy fynd i Eventbrite a chwilio am Deithiau ar y Rheiffordd / Tours by Rail.

Nodiadau i olygyddion


I gael rhagor o fanylion a chadw lle ar y gyfres o ddigwyddiadau Teithiau ar y Rheilffordd – Camu i’r Stori / Tours by Rail – Step into the Story, ewch i https://www.eventbrite.co.uk/cc/tours-by-rail-step-into-the-story-4754763 

● I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Josie Rayworth josie.rayworth@3countiesconnected.org.uk neu Rebecca Butcher rebecca.mediyour@gmail.com rhif ffôn 07765248946

● Tywyswyr y Teithiau yw Katie Crowther a Peter Evans

● Bydd y teithiau hyn yn cael eu cynnal eto ym misoedd Chwefror a Mawrth – dyddiadau i’w cadarnhau

● Ariennir y prosiect gan Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol y 3 Sir Gysylltiedig, Trafnidiaeth Cymru a Chronfa Datblygu Rheilffyrdd Cymunedol – menter ar y cyd rhwng yr Adran Drafnidiaeth (DofT) a’r Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol.

● Mae’r 3 Sir Gysylltiedig yn Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol sydd wedi’i hachredu gan y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol, yr Adran Drafnidiaeth (DofT) a Llywodraeth Cymru, ac mae’n gweithio i gysylltu cymunedau â’u rheilffordd. Gweinyddir Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol y 3 Sir Gysylltiedig gan Groundwork Gogledd Cymru.

● Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol y 3 Sir Gysylltiedig yn gweithio gyda chymunedau ar hyd y rhwydwaith rheilffyrdd o Amwythig – Wrecsam – Caer – Crewe – Amwythig.

Llwytho i Lawr