Skip to main content

New interactive map launched for rail travellers

02 Awst 2023

Mae map digidol byw newydd sbon wedi cael ei lansio, sy’n dangos yn union lle mae eich trên ar unrhyw adeg benodol.

Mae’r map yn dangos lleoliad pob trên ar rwydwaith TrC. Mae’n golygu bod cwsmeriaid yn gallu gweld eu siwrnai mewn amser real a gweld yr amser y mae disgwyl i’r trên gyrraedd pob gorsaf ar hyd y llwybr.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi creu partneriaeth gyda’r cwmni technoleg arloesol ym maes rheilffyrdd, Signalbox, i gynnig y map rhyngweithiol. Mae’r map yn gallu canfod ar ba drên mae defnyddwyr ffonau clyfar, rhannu’r amser byddwch chi’n cyrraedd â ffrindiau neu deulu ac mae’n gallu chwilio am drenau eraill.

Dywedodd Teleri Evans, Rheolwr Strategaeth Gwybodaeth i Gwsmeriaid TrC fod y gweithredwr rheilffyrdd yn “angerddol” dros ddefnyddio technoleg newydd i wella profiad cwsmeriaid.

Dywedodd: “Rydyn ni’n gwybod bod ein cwsmeriaid eisiau cael yr wybodaeth ddiweddaraf wrth deithio i gael tawelwch meddwl eu bod yn gwybod beth sy’n digwydd.

“Boed chi’n eistedd ar drên ac eisiau gwybod lle’r ydych chi neu’n eistedd mewn gorsaf ac yn pendroni ble mae eich trên, mae’r wybodaeth iawn yn gallu rhoi tawelwch meddwl.

“Mae’r map digidol ffantastig hwn yn dangos yn union lle’r ydych chi ac unrhyw drenau eraill rydych chi eisiau eu dal.”

Mae Signalbox yn defnyddio data byw i amcangyfrif lleoliad trenau wrth iddyn nhw basio pwyntiau allweddol ar y cledrau. Yn nes ymlaen eleni bydd y dechnoleg yn defnyddio data GPS o’r trenau i roi darlun sydd hyd yn oed yn fwy cywir o ble mae’r trên.

Mae pob trên yn cael ei ddangos â lliw gwahanol i ddangos a yw’n rhedeg ar amser, mymryn yn hwyr neu dros 10 munud yn hwyr. Gallwch chi hefyd weld beth allai’r oedi hynny ei olygu o ran yr amser y bydd y trên yn cyrraedd gorsafoedd eraill ar hyd y llwybr.

Dywedodd Toby Webb, Sylfaenydd Signalbox:

“Rydyn ni’n gwybod bod teithwyr yn hoffi’r sicrwydd a ddaw drwy weld cynnydd eu taith ar fap mewn amser real, ac mae’n gallu bod yn ddefnyddiol rhannu’r wybodaeth honno â ffrindiau a theulu.

Hyd yma, mae’r rheilffyrdd wedi bod ar ei hôl hi wrth gymharu â diwydiannau eraill sy’n cynnig mapiau byw rhyngweithiol i’w teithwyr. Felly mae hi wedi bod yn gyffrous gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i ddarparu’r adnodd newydd hwn sy’n defnyddio darnau gorau technoleg Signalbox i ganfod, i fapio ac i rannu trenau yng Nghymru.